Ganwyd 25 Ebrill 1804 yn Nhŷ'n-yr-heol, plwyf Cynwyl Gaeo, yn fab i Thomas William Rytherch. Bu dan addysg yn nhref Caerfyrddin, a chynorthwyai David Charles yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Dechreuodd bregethu yn eglwys Caeo yn 1825. Yn 1831 priododd Joyce, merch Thomas Evans Pumsaint. Wedi gadael ardal Caeo preswyliodd mewn amryw fannau yn Sir Gaerfyrddin - Llanegwad, Llanfynydd, Betws, Nantgaredig a Ferryside. Ordeiniwyd ef yn 1839. Ailbriododd yn 1861 â Mrs. Jones, Llandeilo-yr-ynys. Yr oedd i William Prytherch ei le ei hun fel pregethwr gwreiddiol a naturiol, ffraeth ei ymadrodd a chartrefol ei ddull. Yr oedd un o'i oedfaon ymhlith y rhai mwyaf a gofiai'r Dr. Owen Thomas. Bu farw 20 Tachwedd 1888 yn Ferryside.
Mab iddo ef oedd
Ganwyd 28 Mehefin 1846 yn Llwyn Owen, fferm ym mhlwyf Cilycwm. Bu'n ysgolfeistr yn Nhycroes, Garnswllt, a Phentrebach. Dechreuodd bregethu 10 Medi 1863 ym Mhentrebach, ysgoldy dan nawdd eglwys y Gopa, Pontardulais. Ym mis Hydref 1868 cymerodd ofal eglwysi Brechfa a Phontynyswen, ac yn haf 1869 priododd â Margaret Gregory, Rhosili. Ordeiniwyd ef yn Llandeilo, 9 Awst 1870, ac yn 1872 dychwelodd i'r Gopa i fugeilio'r eglwys. Ailbriododd 10 Ebrill 1894, â Margaretta, ferch y Parch. John Richards, Llechryd. Ym mis Hydref 1894 symudodd i Abertawe i fugeilio eglwys y Triniti fel olynydd i'r Dr. David Saunders. Bu'n llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1905, ac yn llywydd cymdeithasfa'r Deheudir yn 1907. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau, Hau a Medi, yn 1912. Pregethwr y bobl ydoedd; heulog ei bersonoliaeth, gwerinol ei ymadrodd, a nerthol ei ddawn. Â'i ddull agos a bywiog enillai ei gynulleidfa yn ddiymdroi, a'i dal â'i ddarluniau naturiol a'i apeliadau taer. Bu farw 11 Hydref 1931 yn Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.