Ganwyd 2 Awst 1825 yn nhy'r ysgol yn Nefynnog, Brycheiniog, yn fab Morgan Rees, prifathro'r ysgol rydd, a Margaret, merch David Jones, crydd. Yn blentyn âi gyda'i fam i gapel Brychgoed (A). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad ac Academi Ffrwd Fâl o dan hyfforddiant William Davies (1805 - 1859), yr hwn a fu'r dylanwad pennaf ar ei fywyd. Aeth adref pan oedd yn 16 a dechrau pregethu trwy gynnal cyfarfodydd ar ffermydd y gymdogaeth. Bu'n byw yn Nhredegar am gyfnod pryd y daeth yn aelod o Eglwys Salem (MC), Sirhywi. Ar ôl marwolaeth ei chwaer yn 1843 a'i dad yn 1844 dychwelodd i Ddefynnog. Dewisiwyd ef yn un o fyfyrwyr cynharaf Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrefeca o dan David Charles (1812 - 1878). Cychwynnodd ei weinidogaeth yn Y Gelli, Brycheiniog, ac ordeiniwyd ef yn y Sasiwn yn y De yn Llanelli ar 4 Awst 1852. Dychwelodd i Ddefynnog ym mis Awst 1853 a bu'n weinidog yng Nghrucywel o fis Rhagfyr hyd 1868, gan fyw yn rhif 4 Tower St. Yn y cyfnod a'i dilynodd y gwnaeth lawer o'i waith ysgrifennu cynnar, tra oedd yn aros am alwad arall. Ym mis Tachwedd 1872 daeth yn weinidog Eglwys Pontmorlais, Merthyr Tudful. Yr oedd erbyn hyn yn aelod uchel ei barch gyda'r M.C.
Yn 1873 traddododd anerchiad ar 'Natur yr Eglwys', rhoddodd siars i'r rhai a gafodd eu hordeinio yn 1883, ef oedd llywydd y Sasiwn yn y De yn 1886 a llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1893. Ymddeolodd yn 1888 i neilltuo'i amser i'r Eglwys ac ysgrifennu. Ef oedd awdur Cofiant y diweddar Barch. Ebenezer Williams, Aberhonddu (1882) a (gyda D. M. Phillips ) Cofiant a phregethau y diweddar David James, Llaneurwg (1895). Cyhoeddwyd llawer o gyfrolau o'i bregethau a chyfrannodd erthyglau i'r Traethodydd, Y Drysorfa, Y Cylchgrawn, The Treasury a'r British Quarterly Review. Dywedodd Dr. R. Tudur Jones ei fod yn wr o gryn addysg ac yn berson o fri ymhlith y Calfiniaid. Derbyniodd radd D.D., Efrog Newydd, yn 1894. Disgrifiwyd ef gan gyfoeswr fel pregethwr grymus, dirwestwr cadarn, a dyn ffraeth a charedig.
Priododd, 4 Tachwedd 1852, Sarah Williams, Glanyrafon, Llangors, a bu iddynt chwech o blant. Bu farw 8 Mehefin 1908 yn ei gartref, Ty'n-y-garn, Cefncoedycymer a chladdwyd ef ym mynwent Cefn Coed. Prisiwyd ei lyfrgell yn werth £1,000.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.