JONES, ROBERT TUDUR (1921-1998), diwinydd, hanesydd eglwysig, a ffigur cyhoeddus

Enw: Robert Tudur Jones
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1998
Priod: Gwenllian Jones (née Edwards)
Rhiant: Elizabeth Jane Jones (née Williams)
Rhiant: John Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd, hanesydd eglwysig, a ffigur cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: D. Densil Morgan

Ganwyd Tudur Jones yn fab i Thomas Jones ac Elizabeth Jane (neé) Williams yn Nhyddyn Gwyn, Llanystumdwy, Eifionydd, sir Gaernarfon, 28 Mehefin 1921. Nyrs oedd y fam a gweithiwr rheilffordd oedd y tad, ac yn y Rhyl, Sir y Fflint, y cafodd Tudur Jones, ei chwaer a'i frawd, eu magu. Annibynwyr selog oedd y teulu, ac yng nghapel Carmel, o dan weinidogaeth y Parchg T. Ogwen Griffith, y byddent yn addoli. Gadawodd Diwygiad 1904 ei ôl yn drwm iawn ar ddefosiwn a duwioldeb y fam a'r tad.

Cafodd Robert Tudur addysg ragorol yn Ysgol Uwchradd y Rhyl o dan athrawon megis Lewis Angell yn y Gymraeg, T. I. Ellis (y prifathro) yn y clasuron ac A. M. Houghton mewn hanes. Efengyleiddiwr Calfinaidd oedd Houghton (ac yn dad i'r ffisegydd Syr John Houghton FRS) a oedd yn cyfuno parch at ei ddisgyblaeth academaidd gydag ymroddiad crefyddol diwyro.

Er ennill ohono ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, plygodd Tudur Jones i bwysau teuluol a mynd i Brifysgol Cymru, Bangor, a dilyn cyrsiau mewn Cymraeg, dan yr Athro Syr Ifor Williams, ac athroniaeth. Graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn athroniaeth yn 1942. Aeth ymlaen i hyfforddi am y weinidogaeth Annibynnol yng Ngholeg Bala-Bangor a'i drwytho yn hanes yr eglwys gan John Morgan Jones, a oedd yn rhyddfrydwr diwinyddol pur flaengar, ac mewn athrawiaeth Gristionogol gan J. E. Daniel. Cenedlaetholwr a lladmerydd Calfiniaeth newydd Karl Barth oedd Daniel, a chafodd Tudur ei hun mewn cydymdeimlad mawr â'i syniadaeth.

Wedi graddio gyda'r marciau uchaf a gofnodwyd erioed yng Nghyfadran Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru yn 1945, cofrestrodd yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, ar gyfer astudiaethau uwch. Hanes Piwritaniaeth yng Nghymru oedd ei bwnc, o dan gyfarwyddyd Claude Jenkins, Athro Brenhinol a Chanon Coleg Eglwys Crist, a chwblhaodd ei ddoethuriaeth erbyn 1947. Yn ogystal â gosod sylfaen ar gyfer ei wybodaeth fanwl o'r maes, ffrwyth y cyfnod hwn oedd ei gyfrol Vavasor Powell (1970). Treuliodd ddau semestr wedyn yn fyfyriwr yng Nghyfadran Brotestannaidd Prifysgol Strasbourg. Tra oedd ym Mangor bu'n Llywydd y myfyrwyr, ac felly hefyd yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Mansfield. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog eglwys Seion, Baker Street, Aberystwyth, yn 1948.

Roedd hi'n amlwg mai fel addysgwr ac ysgolhaig y gallai Tudur Jones wasanaethu ei enwad orau, ac fe'i penodwyd yn athro Hanes yr Eglwys yng Ngholeg Bala-Bangor yn 1950, yn olynydd i Pennar Davies. Ym Mangor y byddai'n aros am weddill ei yrfa gan ddilyn Gwilym Bowyer yn brifathro Bala-Bangor yn 1966 ac yn Athro er anrhydedd yn Adran Diwinyddiaeth y brifysgol yn 1989. Yn ogystal ag ymwneud â materion gwleidyddol, yn olygydd Y Ddraig Goch ac yn ymgeisydd seneddol ym Môn dros Blaid Cymru yn 1955 a 1959, roedd y 1950au a'r 1960au yn gyfnod o ddiwydrwydd academaidd mawr iddo. Llwyddodd ei weithiau sylweddol cynharaf, Congregationalism in England, 1662-1962 (1962) a Hanes Annibynwyr Cymru (1966), er yn ymwneud â'i draddodiad crefyddol ei hun, sef yr Annibynwyr, i osod seiliau newydd ar gyfer y ddealltwriaeth o Brotestaniaeth boblogaidd yn y ddwy wlad ond yng Nghymru yn arbennig. Roedd y feistrolaeth ar ddefnyddiau, treiddgarwch y dadansoddi, yr eglurder ymadrodd ynghyd ag egwyddorion athrawiaethol pendant yn arwydd fod Tudur Jones yn hanesydd eglwysig tra hynod. Bu'n brysur hefyd yn ystod y cyfnod hwn yn cymhwyso'i weledigaeth grefyddol-gymdeithasol at faterion cyhoeddus, nid lleiaf trwy ei newyddiadura. Yn golofnydd yn y misolyn Barn, ac o 1967 ymlaen yn wythnosol yn Y Cymro, bu'n un o'r rhai a lywiai'r farn gyhoeddus pan oedd Cymru a'r Gymraeg yn dod yn faterion llosg. Iddo ef nid magu pietistiaeth a wnâi Christionogaeth, a'r wedd Galfinaidd arni yn arbennig, ond datgan sofraniaeth Duw yn wyneb seciwlariaeth gynyddol y cyfnod.

Erbyn canol y 1970au roedd ei ddiddordeb hanesyddol wedi symud o'i ymwneud cynnar â'r Piwritaniaid a'r Diwygiad Efengylaidd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gwreiddiau'r argyfwng crefyddol modern yng Nghymru. Cafwyd blaenffrwyth hyn yn Yr Undeb (1976), cyfrol yn olrhain hanes Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ond mewn gwirionedd yn dadansoddi gwewyr Ymneilltuaeth Gymreig yn awr ei hanterth Fictoraidd. Ei brif waith ar y pwnc hwn oedd ei ddwy gyfrol Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru, 1890-1914 (1981-2) (cafwyd cyfieithiad Saesneg ohonynt, ac o Hanes Annibynwyr Cymru, yn 2004) sy'n dadansoddi yn feistraidd ddechrau cwymp a diflaniad y Gymru Galfinaidd roedd ef ei hun yn etifedd mor ddisglair iddi. Nid sylwebydd diduedd mohono, a thrwy gydol yr 1980au a dechrau y 1990au, ymroes yr un mor egnïol ag erioed i warchod ei etifeddiaeth gan hybu crefydd efengylaidd yn gyffredinol. Etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Annibynwyr y Byd 1981-5, llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru yn 1985-6 ac yn llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1986-7. Cafodd y radd D. Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1986 (enillodd y DD ar sail ei weithiau cyhoeddedig yn 1968) a phan unwyd Coleg Bala-Bangor a'r Coleg Coffa, Aberystwyth yn 1988, i greu Coleg yr Annibynwyr Cymraeg, parhaodd ym Mangor gan weithio bellach o'r Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn y brifysgol. Cydnabyddir yn bur gyffredinol mai Tudur Jones oedd hanesydd crefydd galluocaf Cymru'r ugeinfed ganrif. Roedd yn ffigur crefyddol o bwys ac un o'i phennaf ysgolheigion.

Priododd â Gwenllian Edwards o Borthmadog yn 1948 a bu ganddynt dri mab a dwy ferch. Dilynodd y meibion lwybr eu tad fel gweinidogion ac ysgolheigion gyda'r Annibynwyr. Bu farw yn frawychus o sydyn ar 23 Gorffennaf 1998. Bu'r angladd 28 Gorffennaf a chladdwyd ei weddillion ym Mangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-12-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/