DAVIES, WILLIAM THOMAS (PENNAR) (1911-1996), nofelydd, bardd, diwinydd ac ysgolhaig

Enw: William Thomas (Pennar) Davies
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1996
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: nofelydd, bardd, diwinydd ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: D. Densil Morgan

Ganwyd Pennar Davies yn Aberpennar, Morgannwg, 12 Tachwedd 1911, yn unig fab i Joseph Davies ac Annie (née) Moss. Yr oedd ganddo dair chwaer. Glöwr oedd y tad, yn hanu o Gwm Rhondda a'r fam o'r Benfro Saesneg a Saesneg oedd iaith yr aelwyd. Roedd amgylchiadau'r teulu yn llwm, yn rhannol oherwydd anafiadau Joseph yn y gwaith glo ac oherwydd cyflwr dirwasgedig yr ardaloedd diwydiannol ar y pryd.

Addysgwyd William Thomas (nid tan yr 1940au y mabwysiadodd yr enw 'Pennar') yn ysgolion cynradd ac uwchradd Aberpennar, Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Lladin yn 1932 ac mewn Saesneg yn 1933. Wedi blwyddyn o hyfforddiant fel athro, aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, i ddilyn cwrs ymchwil gan raddio'n B. Litt. Yn 1936, ar sail Ysgoloriaeth y Gymanwlad, croesodd yr Iwerydd i astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Iâl, New Haven, Connecticut. Dychwelodd i Gymru yn 1938 gan barhau â'i astudiaethau ar lên Oes Elisabeth fel Cymrawd Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

Yn agnostig o ran crefydd, ailafaelodd yng Nghristionogaeth ei fagwraeth yn 1938 a chynigiodd ei hun yn ymgeisydd am y weinidogaeth Ymneilltuol gyda'r Annibynwyr. Dychwelodd i Rydychen, i Goleg Mansfield y tro hwn, a rhwng 1940 a 1943 trwythodd ei hun mewn diwinyddiaeth o dan gyfarwyddyd Nathaniel Micklem, prifathro Mansfield, a'r rhyddfrydwr diwinyddol C. J. Cadoux, hanesydd eglwysig a oedd hefyd yn ysgolhaig Testament Newydd.

Priododd yn 1943 â Rosemarie Wolff, aelod o'r Eglwys Lutheraidd y bu rhaid iddi ffoi o Almaen Hitler oherwydd ei thras Iddewig. Roedd hi'n nyrs yn Rhydychen ar y pryd. Ordeiniwyd ef yn yr un flwyddyn yn weinidog ar eglwys Annibynnol Saesneg Windsor Road, Caerdydd.

Tan ei dröedigaeth rhoes ei fri ar yrfa academaidd, ond ar ôl hynny mynnodd gyfuno llenydda creadigol gydag ymrwymiad i hyrwyddo lles Cymru, yn grefyddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Perthynai ym mlynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd i 'Gylch Cadwgan', cwmni o lenorion avant guard a gyfarfyddai ar aelwyd J. Gwyn Griffiths yn y Pentre, Cwm Rhondda. Er iddo gyhoeddi ei gerddi cynharaf yn Saesneg o dan yr enw 'Davies Aberpennar', o hynny allan dewisodd lenydda yn Gymraeg.

Roedd ei gyfrolau barddoniaeth Cinio'r Cythraul (1946), ei gyfraniad i Cerddi Cadwgan (1953), Naw Wfft (1957) a'r Efrydd o Lyn Cynon (1961) yn cyfuno dysg eang, dychymyg llachar ac ymdriniaeth wreiddiol o themâu serch a'r ysbryd. Fe'i penodwyd yn athro Hanes yr Eglwys yng Ngholeg Bala-Bangor, coleg diwinyddol yr Annibynwyr ym Mangor, yn 1946, cyn symud i'r un gadair yng Ngholeg Coffa, Aberhonddu, yn 1950 a'i ddyrchafu'n brifathro yn 1952. Bu'n brifathro'r Coleg Coffa, Abertawe, rhwng 1959 a'i ymddeoliad yn 1979.

Yn ogystal â chyfrannu at ysgolheictod (yn ei gyfrol fentrus ar 'Gristionogaeth Geltaidd', Rhwng Chwedl a Chredo (1966) er enghraifft), yn y 1950au a'r 1960au rhyddiaith greadigol a aeth â'i fryd, gydag ymddangosiad ei nofelau Anadl o'r Ucheldir (1961) a Meibion Darogan (1968), a'i gasgliad o straeon byrion Caregl Nwyf (1966). Gwelwyd natur ei ysbrydolrwydd orau yn ei lyfr-cyffes Cudd fy Meiau (1958). Cyhoeddodd ei gyfrol farddoniaeth fwyaf gorffenedig Y Tlws yn y Lotws yn 1971. Roedd rhywbeth unigryw ynghylch ei weledigaeth ysbrydol, math ar iwtopiaeth Belagaidd yn seiliedig ar efelychu Iesu o Nasareth a gwelir ei seiliau gliriaf yn ei gyfrol ddiwinyddol, Y Brenin Alltud (1974). Bu'n flaenllaw ym mrwydr yr iaith, a chafodd ei ddedfrydu gan frawdlys Caerfyrddin yn 1979 am ddiffodd trosglwyddydd teledu ym Mhencarreg fel rhan o ymgyrch sefydlu gwasanaeth darlledu Cymraeg.

Er gwaethaf pob diwydrwydd yn dilyn ei ymddeoliad, nid oedd ei gyfrolau diwethaf yn dangos yr un egni creadigol â'r rhai cynt, a bu'n dioddef yn ystod ei flynyddoedd olaf o glefyd Alzheimer. Wrth dafoli ei gyfraniad soniwyd yn fynych am natur bolimathig ei athrylith a chyfaredd enigmatig ei bersonoliaeth. Gadawodd ei ôl yn drwm ar y rhai a'i cyfarfu, nid lleiaf y cenedlaethau o fyfyrwyr a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth Gristionogol yng Nghymru a'r tu hwnt. Rhwng popeth ef oedd un o lenorion mwyaf deallus greadigol yr ugeinfed ganrif ar ei hyd ac ymroes yn ddiarbed er sicrhau ffyniant y Gymru Gristionogol, Gymraeg. Bu ganddo bump o blant, un ferch a phedwar mab, yn eu plith Meirion Pennar, yr academydd a'r bardd a fu farw yn 2010.

Bu farw Pennar Davies yn Abertawe 29 Rhagfyr 1996.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-04-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.