PENNAR, ANDREAS MEIRION (1944-2010), bardd ac ysgolhaig

Enw: Andreas Meirion Pennar
Dyddiad geni: 1944
Dyddiad marw: 2010
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Heini Gruffudd

Ganwyd Meirion Pennar yng Nghaerdydd ar 24 Rhagfyr 1944 yn fab i W. T. Pennar Davies a'i wraig Rosemarie (née Wolff). Yn enedigol o Detmold yn yr Almaen, bu'n rhaid iddi hi ffoi o gartref ei theulu yn Berlin, lle roedd ei thad yn feddyg teulu, cyn yr Ail Ryfel Byd oherwydd ei thras Iddewig. Meirion oedd yr hynaf o bump o blant; ei dri brawd ac un chwaer oedd Rhiannon, Geraint, Hywel ac Owain.

Bu Pennar Davies yn weinidog yng Nghaerdydd o 1943 hyd 1946 pan benodwyd ef yn athro yng ngholeg Bala-Bangor, a symudodd y teulu i Fangor. Gyda phenodiad y tad i'r Coleg Coffa symudodd y teulu i Aberhonddu yn 1950, lle y treuliodd Meirion flynyddoedd ffurfiannol ieuenctid. Honnodd iddo gael ieuenctid anllenyddol, ond dechreuodd farddoni yn y Saesneg ar gyfer eisteddfod Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberhonddu, o dan arweiniad ei dad, a fu'n fentor ac yn ysbrydoliaeth iddo gydol ei fywyd. Yn ddiweddarach mudodd y coleg i Abertawe a dechreuodd Meirion farddoni yn y Gymraeg pan oedd yn ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe. Er iddo ymwrthod ag arddull astrus ei gerddi cynnar - ei 'juvenilia' - o hyn ymlaen, dilynodd ddiddordebau llenyddol, diwylliannol a chrefyddol eang ei dad. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, yn 1966 ac yna dreulio amser yn fyfyrwr ymchwil yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Cafodd radd D. Phil am waith ar ferched yn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol yn 1975.

Bu'n gweithio am gyfnod gyda'r Cyngor Ysgolion cyn mynd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle y cyfarfu â Carmel Gahan, a ddaeth yn wraig iddo (3 Ionawr 1974). Ceir cerddi braf iawn o'r cyfnod hwnnw. Cafodd yrfa wedyn yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr-Pont-Steffan am 19 mlynedd o 1975 tan 1994. Ganwyd iddynt fab, Gwri, ar 15 Medi 1976, ond yn ddiweddarach bu i Meirion a Carmel wahanu. Cyhoeddodd hi gyfrol o gerddi, Lodes fach neis, yn 1980. Yn ystod y cyfnod hwn byddai Meirion Pennar yn dioddef o beth anhwylder meddwl, gan ymdeimlo'n ddwfn â'r cyflwr dynol a thranc ei genedl.

Pan ddarganfu argraffiadwyr a swrealwyr cynnar yr ugeinfed ganrif, yn yr Almaen a Ffrainc, meddwodd ar eu gwaith, a gweld ymdrech onest i geisio ffurf i fynegi rhai o ddeuoliaethau amhosibl byw. Ymdrwythodd yr un pryd yn y Mabinogi a'r hengerdd, ac yn chwedlau Groeg a Rhufain. Dilynodd Meirion yr argraffiadwyr hyn yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Syndod y Sêr (Gwasg y Dryw, 1971), gan ymwrthod â ffurfiau artiffisial barddoniaeth a dewis cerddi di-batrwm, di-atalnod i roi llais i'w feddyliau a'i deimladau yn ddilyffethair. Ei nod oedd creu cerddi oedd "fel gwe... o'm bol fy hun". Angerdd cariad, rhyw a thragwyddoldeb yw rhai o destunau ei ddychymyg astrus, a'r rhain wedi'u cyfuno â gwybodaeth eang o chwedloniaeth Geltaidd a'r hen fyd. Fel cerddi ei dad, gyda'u rhychwant eang a'u rhyfeddod at fywyd, mae angen myfyrio hir arnynt.

Cerdd hir sydd yn ei ail gyfrol o farddoniaeth, Y Pair Dadeni (Gwasg Gomer, 1977), sy'n ail-greu hanes Efnisien a Bendigeidfran o ail gainc y Mabinogi. Cyhoeddodd ddwy gerdd hir arall, 'Saga' (1972) ac 'Y Gadwyn' (1976) a bu ei gyfieithiadau o hen lenyddiaeth Gymraeg yn boblogaidd: Taliesin (Gwasg Llanerch, 1989), The Poems of Taliesin (Tern Press, 1989), The Black Book of Carmarthen (Gwasg Llanerch, 1989, eto Tern Press, 2007) a Peredur (Gwasg Llanerch, 1991), 'Cad Goddau' (Tern Press, 1993). Roedd ar ganol cyfieithiad o'r Gododdin pan fu farw. Yr oedd cyfrol arall o'i eiddo, Glesni, heb ei chyhoeddi adeg ei farw. Yn y gyfrol ddwyieithog hon mae cerddi teimladwy wedi marwolaeth ei dad, a cherddi eraill o natur bersonol, gan gynnwys rhai'n ymwneud â phrofiadau ei ieuenctid yn Aberhonddu a'r ardal, yr oedd arno ddyled fawr iddi.

Roedd Meirion Pennar yn anfaterol ei anian, a'i sgwrs, a allai fod yn chwareus a deifiol, yn troi'n fuan at gyflwr Cymru a'i lach yn anarchaidd a llym yn erbyn gelynion Cymru a gwleidyddion rhyfelgar a chyfalafol. Er gwaethaf hyn roedd ei natur hydeiml wedi'i gwneud hi'n anodd iddo ddelio ag anawsterau personol a gyrfa. Yn genedlaetholwr brwd, cymerodd ran yn ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Safodd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Gorllewin Abertawe yn etholiad cyffredinol anodd 1983. I Abertawe y symudodd Meirion ar ôl ymddeol yn gynnar yn 1994, ac yma cymerodd ofal o'i fam a'i frawd Geraint.

Dioddefodd o afiechyd yn ystod ei flwyddyn olaf a gorfu iddo gael llawdriniaeth; ôl-effaith hon a'i cipiodd yn annhymig. Bu Meirion Pennar farw yn Abertawe 9 Rhagfyr 2010.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-11-28

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.