JONES, JOHN MORGAN (1873 - 1946); gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro coleg Bala-Bangor

Enw: John Morgan Jones
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1946
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: Joseph Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro coleg Bala-Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd 23 Hydref 1873 yn Albert Cottage, Cwmaman, Sir Gaerfyrddin, yn chweched plentyn ac ail fab Joseph Jones, peiriannydd, a Mary ei wraig. Wedi cyfnod o addysg yn ysgol y Tŷ Marchnad bu'n gweithio mewn swyddfa gwaith alcam yn y cylch. Dechreuodd bregethu ym Methel Newydd, Garnant, o dan weinidogaeth y Parch. J. Towyn Jones yn 1889 ac aeth wedyn i ysgol y Gwynfryn, Rhydaman. Fe'i derbyniwyd i Goleg Coffa Aberhonddu yn 1891, a graddiodd yng ngholeg Caerdydd yn B.A. gydag anrhydedd mewn Saesneg yn 1894. Yn 1895 dechreuodd ei gwrs diwinyddol yn Aberhonddu, ond symudodd yn 1896 i goleg Mansfield, Rhydychen, gan raddio'n B.A. mewn diwinyddiaeth yn 1899. Wedi hynny bu am flwyddyn ym Mhrifysgol Berlin o dan addysg yr hanesydd eglwysig Adolf Harnack - yr athro a adawodd fwyaf o'i ddylanwad arno.

Fe'i hordeiniwyd yn 1900 yn eglwys Anniynnol Saesneg y Tabernacl, Aberdâr, a chymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus y dref yn y blynyddoedd y bu yno. Bu'n aelod Rhyddfrydol o Gyngor Aberdâr o Ebrill 1904 hyd Ebrill 1907, a lluniodd A Scheme & Syllabus of Moral and Biblical Instruction (Aberdâr, 1905) ar gyfer ysgolion dyddiol y dref. Yn 1902 priododd Lucy Evans o Bridgnorth a bu iddynt ddau fab a merch. Yn Ionawr 1914 symudodd i fod yn athro Hanes yr Eglwys a Llenyddiaeth Saesneg yng ngholeg Annibynnol Bala-Bangor. Gyda phrifathro 'r coleg, Dr. Thomas Rees, bu a rhan flaenllaw mewn cyhoeddi'r papur pasiffistaidd Y Deyrnas rhwng Hydref 1916 a Thachwedd 1919. Ar farwolaeth Thomas Rees yn 1926 daeth yn brifathro 'i goleg a daliodd y swydd nes marw ohono yntau ar 7 Mawrth 1946. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Glanadda, Bangor.

Bu ganddo ar hyd ei oes ddiddordeb mawr mewn addysg a bu'n Gadeirydd Adran Gogledd Cymru o Fudiad Addysg y Gweithwyr o 1926 hyd 1946. Yn y Brifysgol bu'n Warden Urdd y Graddedigion, 1930-33, ac yn Is-lywydd coleg y Gogledd, 1944-46. Yn ei enwad bu'n Gadeirydd Undeb Cynulleidfaol Saesneg Gogledd Cymru, 1933-4, ac yn Gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1939-40.

Rhoes fynegiant i'w ddiddordeb mewn pynciau cyhoeddus a'i ryddfrydiaeth ddiwinyddol mewn toreth o erthyglau a llyfrau. Cyfrannodd erthyglau o bwys i'r Celt; i'r Christian Commonwealth a'r Geiriadur Beiblaidd. Ceir penodau ganddo yn Moral Instruction and Training in Schools (gol. M. E. Sadler), 1905; ar David Rees, Llanelli, yn Welsh Political and Educational Leaders, 1908; ac ar Efengyl Matthew yn The Story of the Bible, 1938.

Bu'n olygydd Yr Efrydydd, Ebrill 1928-Medi 1931 a'r Cofiadur, 1923-46. Efe oedd golygydd Hanes ac Egwyddorion yr Annibynwyr, 1939.

Cyhoeddodd hefyd: (1) Y Tadau Pererin; eu Hanes a'u Neges, Merthyr Tydfil, 1920; (2) Paul of Tarsus: the Apostle and His Message, York, (d.d. ond 1916); (3) Dysgeidiaeth Iesu Grist a gyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr yn 1921 ac a ddiwygiwyd cyn ei ail-gyhoeddi yng Nghaerdydd yn 1937; (4) The New Testament in Modern Education, London, 1922; (5) (gyda G. A. Edwards) Diwinyddiaeth yng Nghymru (Traethodau'r Deyrnas), 1924; (6) Traethodau'r Diwygiad (Cyfres y Werin, Rhif 14) Wrecsam, 1926; (7) Y Bedwaredd Efengyl (2 gyfrol), Abertawe, 1930, 1931; (8) Y Testament Newydd: ei hanes a'i gynnwys, Caerdydd, 1930; (9) Sgwrs: Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor, (1940).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.