Ganwyd 28 Rhagfyr 1858 yn Ceinewydd, Sir Aberteifi, mab John Jones, crydd, ac Elizabeth ei wraig. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn 11 oed. Wedi cyfnod fel bugail ifanc daeth yn was-caban ar y llongau bychain, ' Elizabeth ' a ' James a Mary,' a oedd yn tradio rhwng porthladdoedd deheuol Cymru ac Iwerddon. Yn 1874 collodd ei le ar y llong am dorri llestri bwyta. Aeth wedyn i ysgol ramadeg Tywyn, Ceinewydd, ac, yn 1876, i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn weinidog Gwernllwyn, Dowlais, yn 1880, bu'n fugail Bethel Newydd, Cwmaman, 1885-1906, ac wedyn yn genhadwr cartref dros Undeb yr Annibynwyr Cymreig, swydd a ddaliodd hyd 1912. Rhwng y blynyddoedd 1885 a 1912 yr oedd wedi datblygu'n un o bregethwyr mawr ei enwad. Daeth hefyd yn ffigur blaenllaw ymysg Rhyddfrydwyr ac yn glos ei gysylltiad â Tom Ellis a David Lloyd George. Yn 1912 etholwyd ef i gynrychioli etholaeth dwyrain sir Gaerfyrddin yn y Senedd; yn 1917 daeth yn Chwip Cymreig ac yn un o Arglwyddi'r Trysorlys. O 1918 ymlaen bu'n cynrychioli etholaeth Llanelli yn llywodraeth unedig y flwyddyn honno, eithr ymddiswyddodd yn 1922 oherwydd stad ei iechyd. Yn 1920 dewiswyd ef yn llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig Bu farw 16 Tachwedd 1925 yn Rhydaman.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.