EDWARDS, GWILYM ARTHUR (1881 - 1963), gweinidog (MC), prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth, ac awdur

Enw: Gwilym Arthur Edwards
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1963
Priod: Mary Nesta Edwards (née Hughes)
Rhiant: Mary Edwards (née Jones)
Rhiant: Owen Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 31 Mai 1881 yng Nghaernarfon, mab Owen Edwards, gweinidog (MC) brodor o Lanuwchllyn (cefnder Syr Owen M. Edwards), a Mary (ganwyd Jones) ei briod. Ymfudodd y tad i Awstralia i gael adferiad iechyd, ond bu farw'i briod cyn iddi fynd â'i theulu i ymuno ag ef ym Melbourne. Magwyd y teulu - tri o fechgyn-gan ei rhieni hi yn Nolgellau. Addysgwyd Gwilym yn ysgol sir Dolgellau, a dechreuodd bregethu 'n weddol ieuanc. Fe'i paratowyd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (graddiodd yno hefyd). Ordeiniwyd ef yn 1909, a bu'n gweinidogaethu yn Zion, Caerfyrddin (1908-11), Oswald Road, Croesoswallt (1911-17), City Road, Caerlleon (1917-23), a'r Tabernacl, Bangor (1923-28). Penodwyd ef, yn 1929, yn athro yng Ngholeg y Bala, a bu'n cydweithio yno â'r Prifathro David Phillips hyd 1939. O 1939 hyd 1949 bu'n brifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth. Anrhydeddwyd ef yn 1946 â gradd D.D. gan Brifysgol Caeredin. Priododd, 1917, Mary Nesta, merch Richard Hughes, milfeddyg, o Groesoswallt; ganwyd mab a dwy ferch o'r briodas. Wedi ymddeol dychwelodd i Groesoswallt, ac yno y bu farw 5 Hydref 1963; claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil.

Llanwodd le amlwg iawn ym mywyd ei gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Dwyrain (1951), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1957). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1933, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1935 dan y teitl Teyrnas Dduw yng ngoleuni syniadau apocalyptig y Beibl. Yr oedd anian y llenor ynddo, ac ysgrifennodd lawer i Cymru ac i gylchgronau ei enwad. Cyhoeddodd, ymhlith pethau eraill, straeon i blant, sef O froydd hud a hanes (1921) a Llyfr y misoedd (1927). Cyhoeddodd hefyd Y Beibl a'i gefndir (1922), Hanes gwareiddiad (1927), Y Beibl heddiw (1932), Athrofa'r Bala (1937), Yr Athrawiaeth Gristnogol (1953). Nodweddid ei waith, fel pregethwr, athro ac awdur gan drefnusrwydd ac eglurder. Ymddiddorodd mewn addysg; bu'n olygydd llawlyfrau Ysgolion Sul ei gyfundeb am flynyddoedd. Ef hefyd oedd golygydd llenyddol Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru, ac ef a ysgrifennodd Maes llafur addysg grefyddol yn ysgolion Cymru (1945-46). Ymddiddorodd hefyd yn Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol dros Gymru, ac ysgrifennodd un o lyfrynnau'r mudiad hwnnw, sef Hamdden yr adolesent yng Nghymru (1929). Cyhoeddodd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Unedig bamffledyn arall o'r eiddo, sef Athrawon ysgol Sul a heddwch y byd (1934). Yr oedd yn ysgolhaig a chanddo feddwl clir, analytig, a rhoddai bwys mawr ar fanylion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.