HOWELLS, HOWELL (1750 - 1842), clerigwr Methodistaidd

Enw: Howell Howells
Dyddiad geni: 1750
Dyddiad marw: 1842
Priod: Howells (née Samuel)
Priod: Howells (née Thomas)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 12 Mai 1750 yn Ystradgynlais, Brycheiniog. Ymunodd yn ieuanc â seiat y Methodistiaid, a dechreuodd bregethu pan oedd ar daith gyda John Evans, Cil-y-cwm, yn y Gogledd. Addysgwyd ef yn Llanddowror c. 1778. Ordeiniwyd yn ddiacon yn 1781; 'Curate of Ystradgynlais' y gelwir ef pan gafodd urdd offeiriad yn 1782. Dywedir iddo wasanaethu wedyn yng Nglyncorrwg, ond aeth i S. Nicholas, Bro Morgannwg, yn ddiweddarach. Cymdeithasodd lawer yno â David Jones, Llan-gan, a daeth i wrthdarawiad â pherson y plwyf oherwydd ei Fethodistiaeth. Cafodd le fel curad Llanddiddan Fach, ger Trehyl, a deuai Methodistiaid y fro ato'n dyrfaoedd yno i gymuno. Gorfu iddo roi'r lle i fyny yn 1818, ac o hynny hyd ei farw ar 19 Ionawr 1842 fe ymlynodd wrth y Methodistiad, gan gymryd rhan yn aml yn eu sasiynau ordeinio. Bu'n briod ddwywaith, (1) â Miss Thomas, merch offeiriad Tresimwn, a (2) â Miss Samuel o'r Bont-faen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.