EVANS, JOHN (?- 1784), cynghorwr Methodistaidd

Enw: John Evans
Dyddiad marw: 1784
Plentyn: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Brodor o Gil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin. Teithiodd lawer yn y Gogledd a'r De, a chafodd ei erlid mewn rhai mannau. Yr oedd ganddo ddawn felys, ond taranai hefyd ar adegau. Enwir ' John Evan of Killycomb ' yn ewyllys Morgan Rhys, yr emynydd, 1779. Canodd William Williams, Pantycelyn, farwnad fer iddo, ac yn ôl honno fe'i claddwyd yng Nghil-y-cwm ym Mawrth 1784. Gwnaed casgliad i gynorthwyo ei weddw a'i blant yn sasiwn Llangeitho, 1785.

Mab iddo oedd JOHN EVANS, Llanymddyfri (Llandeilo Fawr wedyn), pregethwr sychlyd a chwerylgar a ymunodd â'r Eglwys Sefydledig cyn diwedd ei oes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.