Ganwyd 1 Ebrill 1716, yn yr Efail-fach, Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin, mab Rhys ac Anne Lewis. Ychydig a wyddys am fore'i fywyd. Gweithredodd fel athro cylchynol mewn amryw fannau yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion rhwng 1757 a 1775, a cheir cyfeiriadau at ei ddiwydrwydd fel athro yn Welch Piety. Gelwid ef 'a Methodistical Teacher ' gan gyfoeswr yn 1770, a phraw ei ewyllys olaf mai'r seiat Fethodistaidd oedd ei gartref ysbrydol. Trigai yng Nghwm Gwaun Hendy, Llanfynydd, yn niwedd ei oes, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfynydd ar 9 Awst 1779.
Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o emynau, Golwg o Ben Nebo, ar Wlâd yr Addewid , o wasg Ffarley, Bryste, yn 1755, a dilynwyd hwnnw gan Casgliad o Hymau [sic] (Caerfyrddin, 1757), a Casgliad o Hymnau etc. (R. Thomas, Caerfyrddin, 1760); Golwg o Ben Nebo (ail arg., Thomas, Caerfyrddin, 1764); Golwg ar Ddull y Byd, etc., 1767; Golwg ar Ddinas Noddfa (sy'n cynnwys marwnad i Ester Siôn, Llansawel), 1770; Griddfanau'r Credadyn, 1772; Griddfanau Credadyn (llyfr gwahanol), c. 1774; Y Frwydr Ysprydol (mewn undeb â Thomas Dafydd), c. 1772-4; a Golwg o Ben Nebo (3ydd arg., Ross, Caerfyrddin, 1775). Cyhoeddodd nifer o farwnadau hefyd, sef Marw-Nad: … Lewis Lewis … Llanddeiniol (sy'n cynnwys rhai emynau), 1764; Marwnad … rhai o Weinidogion ffyddlon yr Efengyl Howell Davies, William Richard, a Siôn Parry), 1770; a Hanes Byr o Fywyd … Morgan Nathan, yn Llandilo-fawr (sy'n cynnwys emynau gan Morgan Rhys a M. Nathan), 1775. Nodweddir emynau Morgan Rhys gan brofiad ysbrydol dwfn, a dyry le amlwg i berson Crist bob amser. Ceir enghreifftiau o'i waith ym mhob casgliad o emynau Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.