DAFYDD, (neu DAVID), THOMAS (fl. 1765-92), marwnadwr ac emynydd

Enw: Thomas Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: marwnadwr ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yr oedd yn frodor o Lanegwad, Sir Gaerfyrddin, - anfonwyd y cyntaf o'i lyfrynnau i'r wasg o Esgair-rudd yn Llanegwad. Ni wyddys nemor ddim amdano. Digwydd yr enw, ysywaeth, yn aml iawn yng nghofrestri'r plwyf, ond gellir nodi i un o'r enw hwn gael ei eni yno yn 1728 ac un arall yn 1735. Disgrifiwyd ef, a hynny ddigon tebyg yn gywir, fel pregethwr Methodistaidd, ond nid oes cofnod swyddogol o'i dderbyn fel pregethwr. Nid oedd ef ychwaith yn un o'r sawl Thomas David y ceir eu llythyrau yng nghasgliad Trefeca. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol iawn am Fethodistiaid blaenllaw ei ddydd yn ei farwnadau. Ceir y marwnadau hyn, a'i emynau, mewn rhyw ugain o lyfrynnau a gyhoeddwyd rhwng 1765 a 1792. Disgrifir y rhain gan Garfield H. Hughes yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, Gorffennaf 1951. Y mae'r nodiadau hyn wedi eu seilio'n gyfan gwbl ar yr erthygl honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.