Ganwyd 13 Rhagfyr 1912 yn yr Hendy, Pontarddulais, Morgannwg, yn fab John a Rachel Hughes. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, yr Hendy, ac ysgol ramadeg Llanelli. Aeth i G.P.C., Aberystwyth, yn 1932, ac wedi ennill ysgoloriaeth Cynddelw yn 1934, graddiodd gydag anrhydedd yn y dosb. I yn y Gymraeg yn 1935, ac yn y dosb. II, i, yn Saesneg yn 1936. Wedi blwyddyn o hyfforddiant fel athro ysgol, penodwyd ef i staff yr adran Gymraeg yn Aberystwyth yn ' fyfyriwr-gynorthwywr ' yn 1937; dyrchafwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn 1940, darlithydd yn 1947, uwch-ddarlithydd yn 1960, ac yn ddarllenydd yn 1968. Yr oedd yn bennaeth gweithredol yr adran Gymraeg, 1968-69. Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru yn 1939 am draethawd ar ' Bywyd a gwaith Iaco ap Dewi '. Bu'n aelod o bwyllgor iaith a llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, cyngor Cymdeithas Lyfryddol Cymru, pwyllgor Emynau'r Eglwys Fethodistaidd, ac o Gymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd. Priododd Kathleen Jones yn 1952, a bu iddynt un ferch. Bu farw yn ysbyty Brompton, Llundain, 16 Medi 1969, a chladdwyd ef ym mynwent Aberystwyth.
Dysg a diwylliant hen siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi oedd meysydd cyntaf ei astudiaeth, fel y dengys ei gyhoeddiadau cynharaf, sef Iaco ap Dewi, 1648-1722 (1953); ' Ben Simon ', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5; ' Halsingod Dyffryn Teifi ', Eurgrawn, 1941. Yr oedd yn wr o ddiwylliant eang a osodai bwyslais ar gyd-destun hanesyddol a llenyddol y llyfrau a'r cyfnodau a astudiai. Tynnai ar ei wybodaeth helaeth o lenyddiaeth Saesneg wrth drafod llên Cymru, fel y gwelir yn arbennig yn y nifer o adolygiadau sydd ganddo yn The Welsh Review, Y Traethodydd, Y Llenor a Llên Cymru. Ond er bod ganddo gryn ddiddordeb yng ngwaith y Gogynfeirdd a'r Chwedl Arthuraidd (pynciau y darlithiai arnynt), hanes rhyddiaith Gymraeg o'r Dadeni hyd y 18fed ganrif, gyda sylw arbennig i'r 17fed ganrif, oedd ei brif faes ymchwil. Cyhoeddodd Rhagymadroddion 1547-1659 (1951); golygiad o Theophilus Evans, Drych y prif oesoedd, 1716 (1961); Theophilus Evans a Drych y prif oesoedd (1963); Gweithiau William Williams, Pantycelyn, II, rhyddiaith (1967); a nifer helaeth o erthyglau yn ogystal â nifer o gyfraniadau i Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Prif ddiddordebau ymchwil eraill oedd hanes y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg ac emynyddiaeth gynnar Gymraeg. Nodweddid ei holl waith gan y darllen eang y soniwyd amdano eisoes, ynghyd â chraffter beirniadol a sicrwydd barn.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.