Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am John Ross fel person. Dysgasai ei grefft argraffu yn Llundain, a dechreuodd argraffu yng Nghaerfyrddin yn 1763 (gyda Rhys Thomas); bu hefyd yn cydargraffu neu gydgyhoeddi ychydig lyfrau â John Daniel yn niwedd y 18fed ganrif. Yn ystod yr hanner can mlynedd y bu'n argraffu y mae'n bosibl iddo gynhyrchu mwy o lyfrau Cymraeg neu Gymreig na holl argraffwyr eraill Cymru a'r goror gyda'i gilydd. Yr oedd rhai o'r cynhyrchion hyn yn helaeth o ran maint a chost, e.e. tri argraffiad o ' Feibl Peter Williams.' Yr oedd John Ross yn Annibynnwr ac yn un o ymddiriedolwyr capel Heol Awst, 1781, ac yn un o ddau siryf tref Caerfyrddin yn 1785. Bu farw yn wythnos olaf Hydref 1807, yn 78 oed. Bu ei ferch (neu efallai ei chwaer), ANN SCOTT, yn cadw'r busnes ymlaen am ychydig ar ôl marw ei thad; bu hi farw 24 Medi 1842 yn 107 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.