Brodor o gyffiniau Aberafan, Sir Forgannwg (The Cambrian, 20 Awst 1831) - ceir llythyr yn Y Drysorfa, 1919, 418-9, yn ailadrodd y sgwrs â hen wr a'i hadwaenai (ni roddir enw'r awdur nac enw'r hen wr) ac yn dywedyd bod ' Dic Penderyn ' yn fab Lewis Lewis a oedd yn byw mewn bwthyn o'r enw Penderyn ym mhlwy'r Pîl. Priododd chwaer iddo (yr oedd hi yn hyn nag ef; dywedir ei bod yn 41 pan fu farw yn 1841) a Morgan Howells ym mis Medi 1827.
Nid oes sicrwydd pendant am symudiadau Dic Penderyn hyd y dechreuodd y terfysg ym Merthyr Tydfil yn 1831. Yr adeg honno yr oedd yn wr priod yn byw yn Merthyr - yn löwr wrth ei alwedigaeth. Dechreuodd y cythrwfl ar 2 Mehefin gydag ymosodiad ar dy Joseph Coffin, clerc y ' Court of Requests,' a distrywio ei ddodrefn (gweler o dan Lewis Lewis, ' Lewsyn yr Heliwr '). Nid oes dystiolaeth i Dic Penderyn gymryd unrhyw ran yn yr ymosodiad hwnnw. Galwodd yr ustusiaid am filwyr, a chyrhaeddodd cwmni yn perthyn i'r 93rd (Highland) Regiment fore drannoeth. Aeth rhai o'r milwyr i'r Castle Inn; arhosodd eraill y tu allan ac amgylchynwyd hwynt gan dorf o bobl, Dic Penderyn yn eu plith. Ar anogaeth Lewis Lewis, ceisiodd y dorf ymwthio at y milwyr a chymryd eu gynnau oddi arnynt. Bu cythrwfl ac ymladd hyd nes y saethodd y milwyr a oedd y tu mewn drwy ffenestri'r gwesty i blith y dorf. Lladdwyd rhai pobl, anafwyd eraill; anafwyd rhai o'r milwyr hefyd. Ni wyddys a fu i Dic Penderyn ran yn y gweithrediadau a ddilynodd - disgwyl yn ddirgel am barti a oeddi yn cludo adnoddau tanio o Aberhonddu a syrthio ar draws y Swansea Yeomanry a chymryd eu harfau oddi arnynt. Cymerwyd ef i'r ddalfa a'i gyhuddo o gynnull mewn cythrwfl ac ymosod o ddrwgfwriad ar Donald Black, o'r 93rd Regiment, a'i glwyfo pan oedd hwnnw yn gwneuthur ei ddyletswydd. Safodd ei brawf ym mrawdlys Caerdydd o flaen y barnwr Bosanquet, ac ar bwys tystiolaeth James Abbott, barbwr, a William Williams, teiliwr - ill dau o Ferthyr - fe'i cafwyd ef yn euog. Condemniwyd ef i farwolaeth - i'w grogi ar 31 Gorffennaf. Yr oedd cryn ansicrwydd ai Dic Penderyn a glwyfodd Donald Black. Dywedodd y milwr hwnnw, a welsai Dic yn y dorf, nad oedd yn gwybod pwy a'i clwyfodd. Trefnwyd deiseb - dywedir iddi gael ei harwyddo gan 11,000 o bobl - i ofyn am gael diddymu'r condemniad i farw. Yr oedd Joseph Tregelles Price, Castell Nedd, Crynwr a dyngarwr, yn gwbl argyhoeddedig fod Dic yn ddieuog. Ceisiodd gyfle i siarad â'r ysgrifennydd cartrefol, Melbourne, eithr ni bu lwyddiant hyd oni pherswadiwyd yr ysgrifennydd trwy gyfryngiad yr arglwydd ganghellor, Lord Brougham, i roi estyniad bywyd o bythefnos i'r carcharor; pan ddeth yr estyniad hwn i ben mynegodd Melbourne na welai ef yr un rheswm a barai iddo newid y ddedfryd. Crogwyd y carcharor yng ngwydd y cyhoedd yng ngharchar Caerdydd am wyth o'r gloch ddydd Sadwrn, 13 Awst 1831. Dywedid ei fod yn 23 oed yr adeg honno. Aeth pedwar gweinidog Wesleaidd, a William Rowlands (' Gwilym Lleyn ') yn eu plith, a fuasai gyda'r carcharor am beth amser cyn hynny, gydag ef i'r dienyddle. Mewn llythyr huawdl at ei chwaer a ysgrifennwyd ganddo neu drosto pan oedd yn y carchar, gofynnai a ellid gwneuthur trefniadau i'w gladdu. Yr oedd y dyrfa a ddilynai ei gorff drwy Fro Morgannwg drannoeth, dydd Sul, 14 Awst, yn chwyddo nes iddi ddyfod yn un fawr iawn. Claddwyd ef ym mynwent eglwys S. Mair, Aberafan, gan berson y plwyf; nid aethpwyd â'r corff i mewn i'r eglwys. Y tu allan i fur y fynwent bu brawd-yng-nghyfraith Dic, sef Morgan Howells, yn annerch y dyrfa. Yn 1874 mynegodd Evan Evans, Nantyglo, gwr o bwys a gweinidog gyda'r Annibynwyr, iddo gael cyffes-gwely-marw yn America gan ddyn a ddywedai mai efe a glwyfodd Donald Black.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.