Ganwyd 17 Ionawr 1784 yng Nghernyw, mab PETER PRICE (1739 - 1821) a'i wraig Anna Price (Tregelles) (1759 - 1846). Symudodd y teulu i Gastell Nedd yn 1799 pan wnaethpwyd Peter Price yn bennaeth gwaith haearn Neath Abbey, gwaith yr oedd i'r teulu gyfran ynddo gyda theuluoedd eraill o Grynwyr. Yr oedd y tad yn Grynwr selog a dyngarol; adeiladodd ysgol lle y câi plant tlodion ardal Neath Abbey addysg yn ddi-dâl. Yr oedd y fam hefyd yn flaenllaw gydag achosion da. Heblaw'r gwaith haearn yn Neath Abbey yr oedd y teulu yn codi glo, ac yn turio am ddefnydd haearn brwd yn Aberpergwm; yr oeddent hefyd yn toddi copr. Ar 6 Rhagfyr 1817 hysbysodd Joseph Tregelles Price ei fod am werthu gwaith haearn Neath Abbey, eithr ar ôl cael prydles newydd, ar 31 Mawrth 1818, ceir ef a'i frawd H. H. Price yn ymgymryd â'r gwaith o'r newydd; daeth Joseph yn bencyfarwyddwr y gwaith cyn diwedd y flwyddyn. Gwneid pob math o beiriannau ar gyfer diwydiannau gan y cwmni; hysbyswyd yn y Western Mail, 30 Mai 1923, fod rhai peiriannau a wnaethpwyd ganddo 100 mlynedd cyn hynny yn parhau i gael eu gweithio yn y Forest of Dean.
Enillodd Joseph Tregelles Price enw da iddo'i hun fel meistr ac fel dyngarwr. Ymwelodd â ' Dic Penderyn ' pan oedd hwnnw yng ngharchar Caerdydd o dan ddedfryd marwolaeth (1831), penderfynodd fod y carcharor yn ddieuog, ac aeth ar ffrwst i weled Lord Melbourne, gan lwyddo i gael gohirio'r dienyddio am 10 niwrnod. Iddo ef y rhoddir y clod am sefydlu'r gymdeithas heddwch gyntaf (yn Llundain yn 1816); ac efe oedd llywydd cyntaf y gymdeithas honno. Bu'n gweithio hefyd yn erbyn caeth-wasanaeth. Bu farw, yn ddi-briod, ar ddydd Nadolig 1854, a chladdwyd ef ym mynwent y Crynwyr, Castellnedd. Cariwyd y gwaith ymlaen am gyfnod gan ei nai, HENRY HABBERLEY PRICE (1825-?). Nai arall iddo oedd Elijah Waring. Yr oedd ISAAC REDWOOD, a fu'n noddwr i Edward Williams ('Iolo Morganwg') yn ei henaint, yn frawd-yng-nghyfraith iddo; [a gweler Tregelles ].
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.