TREGELLES, SAMUEL PRIDEAUX (1813 - 1875), ysgolhaig Beiblaidd, ieithydd

Enw: Samuel Prideaux Tregelles
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1875
Rhiant: Samuel Tregelles
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Beiblaidd, ieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Daniel Vernon Lewis

Ganwyd yn Wodehouse Place ger Falmouth, 30 Ionawr 1813. Perthynai ei dad Samuel i gyff o Grynwyr a ddaethai o Gernyw yn gwmni i waith haearn Cwm-y-felin, Mynachlog Nedd, Sir Forgannwg, ddechrau'r 19eg ganrif; ymddengys ei enw ar weithred y gwaith haearn yn 1818. Daeth Tregelles yn gynnar dan ddylanwad J. N. Darby (1800 - 1882), un o brif sylfaenwyr Brodyr Plymouth. Ymaelododd yn fuan yn Eglwys Loegr, eithr ni chefnodd yn llwyr ar rai o egwyddorion Brodyr Plymouth. Addysgwyd yn ysgol ramadeg y Parch. T. Sheepshanks, Falmouth (1825-8), a symud yn llanc 15 oed i Fynachlog Nedd. Bu yno am chwe blynedd (1829-35), ac yn ôl un dystiolaeth, clerc ydoedd yn swyddfa'r gwaith haearn. Eithr dywaid D. Rhys Phillips iddo fynd yno yn brentis peiriannydd, ac yr arferai gynnau'r tanau yn y bore cyn cyrraedd o'r crefftwyr. Ymroddodd i feistroli Hebraeg, Groeg, a Chymraeg. Yng nghyffiniau Castell Nedd deffrodd yr awydd ynddo i bregethu, a diau iddo wneuthur hynny yn Gymraeg lawer tro. Bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Cymmrodorion ardal Castell Nedd tua 1833. Symudodd i Falmouth yn 1835 i roddi gwersi preifat, a dychwelyd am dro i Gastell Nedd 30 Gorffennaf 1844, pan sgrifennodd at ' Eben Fardd ' ynglyn â'i fwriad i alw yng Nghlynnog ar daith bregethu. Gohebodd y ddau â'i gilydd droeon yn Gymraeg. Dysgodd ' Eben ' y grefft o englynu iddo. Cyflawnodd Tregelles swm enfawr o waith ynglyn â ieithoedd y Beibl am dros 30 mlynedd, gan chwilio hen lawysgrifau yn llyfrgelloedd y wlad hon a'r Cyfandir. Mewn ymchwil i destun y Testament Newydd y gwnaeth ei waith pennaf. Bu'n un o'r rhai a dorrodd ar draddodiad y ' Textus Receptus.' Adnabyddid ef hefyd fel bardd, a cheir cerddi ganddo yn Lyra Britannica a Christ in Song (Schaff). Ar derfyn ei oes derbyniodd bensiwn o £200 y flwyddyn oddi wrth y Llywodraeth yn gydnabyddiaeth am ei lafur. Bu farw o'r parlys yn Plymouth 24 Ebrill 1875.

Cyhoeddodd: Passages in the Old Testament connected with the Revelation, 1836; rhagair ar y cyfieithiadau Saesneg yn English Hexapla (London, 1841); Hebrew Reading Lessons, 1845; Hebrew & Chaldee Lexicon to the Old Testament, 1847 (cyf. o eiriadur Gesenius); Heads of Hebrew Grammar, 1852; Interlineary Hebrew & English Psalter, 1852; rhan amlwg yn The Englishman's Greek Concordance to the New Testament a The Englishman's Hebrew & Chaldee Concordance to the Old Testament, 1839-43; Account of the Printed Text of the New Testament, 1854; An Introduction to the Textual Criticism of the New Testament, 1856; The Ways of the Line (yn ddienw), 1858; New Testament Greek Text (yn rhannau, 1857-72), heblaw erthyglau lawer yn Smith, Dictionary of the Bible.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.