WARING, ELIJAH (c. 1788 - 1857) masnachwr, awdur a chyhoeddwr

Enw: Elijah Waring
Dyddiad geni: c. 1788
Dyddiad marw: 1857
Priod: Deborah Waring (née Price)
Plentyn: Anna Letitia Waring
Rhiant: Jeremiah Waring
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: masnachwr, awdur a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Griffith John Williams

Mab Jeremiah Waring o Alton yn Hampshire. Daeth i Forgannwg tua 1810. Dechreuodd ymddiddori yn hanes Cymru, ac er mwyn goleuo'r Saeson ar y pwnc hwnnw cychwynnodd gylchgrawn Saesneg yn Abertawe yn 1813, The Cambrian Visitor: a Monthly Miscellany, cylchgrawn a barhaodd am ryw wyth mis. Ef oedd y prif olygydd, a dywedir iddo golli llawer o arian trwy'r fenter hon. Yn 1814, ymsefydlodd yng Nghastell Nedd, ac yn 1817 priododd Deborah, merch Peter Price, a chwaer Joseph Tregelles Price, gŵr enwog yn hanes y Gymdeithas Heddwch.

Crynwr oedd Waring, a byddai'n pregethu yng nghapelau'r Anghydffurfwyr yn y gymdogaeth. Yn nes ymlaen, ymunodd â'r Wesleaid. Daeth yn enwog fel pleidiwr rhyddid mewn gwlad ac eglwys, a chymerodd ran flaenllaw yn y mudiad i ddiwygio'r Senedd. Ef biau llawer o erthyglau blaen ar y pwnc hwn a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Abertawe, The Cambrian. Nid rhyfedd, felly, ei fod yn hoff o gwmni ' Iolo Morganwg.' Wedi marw ' Iolo ' yn 1826, rhoes ei atgofion amdano mewn cyfres o erthyglau a ymddangosodd yn The Cambrian. Yna yn 1850 cyhoeddodd ei gofiant enwog, Recollections and Anecdotes of Edward Williams, The Bard of Glamorgan - llyfr difyr, ond yn sicr ddigon, un o'r llyfrau mwyaf camarweiniol.

Yn 1835 symudodd i Gaerdydd, ac oddi yno i Hotwells, Clifton. Dychwelodd i Gastell Nedd tua 1855, a bu farw yn nhŷ ei fab nos Sul, 29 Mawrth 1857.

Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth Saesneg, ac enillodd ei ferch, ANNA LETITIA WARING (1823 - 1910), gryn amlygrwydd fel emynydd (gweler y D.N.B. ).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.