LEWIS, LEWIS ('Lewsyn yr Heliwr ' neu ' Lewys Shanco Lewis '; 1793 - ?)

Enw: Lewis Lewis
Ffugenw: Lewsyn Yr Heliwr, Lewys Shanco Lewis
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: ?
Rhiant: Margaret Lewis
Rhiant: Lewis Jenkin Lewis
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr
Awdur: David Williams

bedyddiwyd 21 Mawrth 1793, mab Jenkin a Margaret Lewis, Blaencadlan, plwyf Penderyn, sir Frycheiniog, y tad yn gigydd. Halier oedd y mab - dyna'r rheswm dros ei alw 'yr Heliwr' - yn cludo glo o'r pyllau glo yn Llwydcoed i'r odynau calch ym Mhenderyn. Yn y cythrwfl ym Merthyr Tydfil, 1831, cymerodd ran flaenllaw (2 Mehefin) yn yr ymosodiad ar dŷ Joseph Coffin, clerc y ' Court of Requests '; bu hefyd, drannoeth, yn annog y dorf a oedd y tu allan i'r Castle Inn i ddwyn arfau y 93rd (Highland Regiment) oddi arnynt. Wedi'r terfysgoedd bu'n ymguddio yng nghyffiniau Penderyn, eithr daliwyd ef yng nghoed Hendrebolon, Ystradfellte, 7 Mehefin. Dedfrydwyd ef i farwolaeth ym mrawdlys Caerdydd, gan y barnwr Bosanquet, am achosi cydgynulliad terfysglyd a distrywio tŷ ac eiddo Joseph Coffin. Newidiwyd y ddedfryd wedi hynny i garchariad dros oes mewn gwlad alltud. Ni wyddys hyd yn hyn pa bryd y bu farw.

Bu llawer o ddyfeisio a rhamantu o gylch ei enw - i raddau oherwydd camesbonio y disgrifiad ohono fel 'yr heliwr' fel petai'n golygu 'the huntsman'; gwneir hynny cyn gynhared â 11 Mehefin 1831 yn The Cambrian, newyddiadur a gyhoeddid yn Abertawe, eithr i raddau mwy helaeth oblegid iddo achub rhag cael ei grogi. Awgrymir rhesymau amrywiol dros y waredigaeth hon - dylanwad rhai gwŷr o awdurdod, fel rheol o achos ei fod cystal campwr pan oeddid allan yn hela, neu oherwydd tybio o rai ei fod yn fab anghyfreithlon un o'r gwŷr tiriog. Serch ei gael yn euog o ddrwgweithred ysgeler ('felony'), ni chyfrifid ei drosedd ef yr un mor ddifrifol â hwnnw y dedfrydwyd Richard Lewis ('Dic Penderyn') o'i blegid, a hynny sy'n esbonio'r gwahaniaeth a wnaethpwyd yn achosion y ddau garcharor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.