LLEWELYN, WILLIAM (1735 - 1803), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: William Llewelyn
Dyddiad geni: 1735
Dyddiad marw: 1803
Rhiant: Alcie Llewelyn (née Cox)
Rhiant: Thomas Llewelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Coety ym Morgannwg yn 1735 (bedyddiwyd 21 Mawrth, yn eglwys y plwyf), yr hynaf o bedwar plentyn crydd o'r enw Thomas Llewelyn a'i wraig Alice (Cox, merch o sir Gaerloyw), aelodau gyda Lewis Jones ym Mhenybont-ar-Ogwr. Prentisiwyd ef i fragwr yn y dref; cafodd ysgol nos (efallai dan Lewis Jones), a dechreuodd bregethu; yn Ionawr 1759 aeth i academi'r Fenni. Urddwyd ef (31 Awst 1763) yn weinidog ar gynulleidfa Henffordd, ond ymadawodd yn swta yn 1763. Ni ellir cysoni'r gwahanol adroddiadau a roddir o'i yrfa yn y blynyddoedd dilynol. Yn ôl Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (ii, 527-8; iv, 347), bu'n weinidog Maesyronnen yn sir Faesyfed o 1766-7 hyd 1775 a'r Beili-halog (Gwenddwr ym Mrycheiniog) o 1766-7 hyd 1773, a dywedir hefyd iddo fod yn weinidog y Garn yn sir Faesyfed o tua 1760 ymlaen - ond wrth gwrs yr oedd yn yr academi o 1759 hyd 1763. Bron na chred dyn fod Thomas Rees yn gywir yn ei farn gyntaf (op. cit., ii, 531), sef mai rhyw William Llewelyn arall a fu yn sir Faesyfed, ac mai ar gam y newidiodd ei feddwl (op. cit., iv, 347) ac uniaethu gweinidog Maesyronnen â'r William Llewelyn sydd dan sylw. Oblegid yn berffaith sicr, yn ôl tystiolaeth gyfoes Nyberg, gweinidog Morafaidd Llanllieni, yr oedd Llewelyn yn weinidog Walsall yn Ebrill 1769 fan ddiweddaraf, a dywed Brown (The Free Churches of Leominster) iddo fynd yn syth o Henffordd i Walsall, yn 1766. Y mae sawl cyfeiriad ato yn nyddlyfr Morafiaid Llanllieni (Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1935, 14-6); wedi colli ei briod (merch i John Jenkins, gweinidog Bromyard), aeth yn ansefydlog ei feddwl, ac er ei fod yn enw o fugail yn Walsall, crwydrai i wasnaethu eglwysi eraill. Yn ôl Kilsby a J. T. Jones, yr oedd Bewdley 'n un o'r eglwysi hyn; ond sut bynnag, ymwelai'n fynych â Llanllieni - heblaw llenwi pulpud y gweinidog Annibynnol Rees yn ei waeledd, pregethai hefyd yng nghapel Joshua Thomas y Bedyddiwr. O'r diwedd (Awst 1769), rhoes y gorau i Walsall, i ddilyn Rees yng ngofalaeth Llanllieni; ac yno y bu hyd ei farwolaeth (yn ddisyfyd, yn y pulpud), 30 Ionawr 1803. Ailbriododd yn 1772, â merch i fasnachwr cyfoethog yn y dref, o'r enw Morgan, a chafodd bump o blant. Y mae'n amlwg ei fod yn bregethwr poblogaidd (ar y cyntaf, beth bynnag); disgrifir ef fel dyn ffasiynol ei wisg, hael a charedig - ond disgyblwr llym a digymrodedd. Ond y mae hefyd yn amlwg fod cyflwr ei feddwl wedi gwaethygu fwyfwy wrth fynd ymlaen. Yn 1771, cawn ei gymydog a'i gyfaill Nyberg yn ei amau o ' Sosiniaeth,' ond y mae ' Sosiniaeth ' yn enw llawer rhy barchus a chyfundrefnol i'w daro ar y gawdel o opiniynau a broffesid ganddo ymhellach ymlaen. Yr oedd ganddo bellach ddigon o arian i gyhoeddi rhes o lyfrau, amlwg anwerthadwy, y ceir rhestr ohonynt, gyda dyfyniadau, yn ysgrif Kilsby. Erbyn ei farw, yr oedd ei gynulleidfa wedi edwino'n ddyrnaid o ffyddloniaid personol; gofelid amdani am ysbaid wedyn gan fancer o'r enw Griffiths. Yr oedd yr achos eto'n lled-fyw pan sgrifennodd Kilsby, ond darfu'n fuan wedyn - gellid meddwl mai darllen darnau o lyfrau Llewelyn oedd y 'moddion' ar y Suliau. Sefydlwyd achos Annibynnol newydd yn Llanllieni yn 1864 (Brown, op. cit.).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.