Ganwyd yn rhywle yng Ngheredigion. Bu yn academi Caerfyrddin dan Perrot(t) (Walter J. Evans yn NLW MSS 10327B ; gweler hefyd NLW MS 373C ), ond ni nodir y blynyddoedd. Yn ôl llyfr eglwys y Cilgwyn (Y Cofiadur, 1923) urddwyd ef yn weinidog Llanedi ym mis Medi 1734. Naturiol yw tybied iddo symud i Ben-y-bont-ar-Ogwr a'r Betws ddiwedd 1739; ond yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, ii, 206, gwthir tymor o weinidogaeth yn y Drewen a'r Llechryd i mewn yn 1739-40. Eithr mewn man arall o'r un llyfr (iv, 167), awgrymir posibilrwydd mwy rhesymol (gan nad oes fwlch rhwng y ddau weinidog David Sais a David Evan yn y Drewen), sef mai dechrau pregethu (yn 18 oed meddai David Williams yr emynydd yn ei farwnad iddo) yn yr eglwys hon a wnaeth Lewis Jones, ac efallai gynorthwyo David Sais, yn ddiurddau, cyn cael ei ordeinio yn Llanedi - nid annaturiol fyddai casglu hefyd mai yn y cylch hwnnw y ganed ef. Bu am flynyddoedd lawer yn llwyddiannus iawn ym Mhen-y-bont. Yr oedd yn bregethwr tanllyd a phoblogaidd, yn Galfin pybyr, ac yn un o'r fintai o Annibynwyr (fel ei gyfaill Edmund Jones, a sonia amdano yn ei lythyrau a'i ddyddlyfrau) a gydweithiai â Howel Harris ar ddechrau'r mudiad Methodistaidd - y mae gennym lythyr ganddo at Harris (T.L., 313, Chwefror 1741, a argraffwyd yn Y Cofiadur, 1935, 54). Pregethai ar hyd ac ar led Morgannwg. Ond yn 1763 (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, ii, 198) cododd anghydfod rhyngddo a Samuel Price, mab ei ragflaenydd, ac er i weinidogion y cylch geisio cymodi rhyngddynt, ymadawodd â Phen-y-bont - ar Lewis Jones y rhydd dyddlyfr Philip David o Benmain y bai. Y farn gyffredin yw iddo symud i Ross yn sir Henffordd; ond awgryma Walter J. Evans (uchod) y gall mai yn Nyfneint y bu o 1763 hyd 1765, onid yn wir hyd 1768, ac mai oddi yno yr aeth i Ross. Sut bynnag, yn Ross y bu farw, 8 Ionawr 1772, yn 69, meddai carreg ei fedd. Bu'n briod ddwywaith; merch iddo oedd gwraig David Jardine.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.