TIBBOTT (TEULU), Llanbrynmair

TIBBOTT, RICHARD (1719 - 1798), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog gyda'r Annibynwyr Crefydd;

Ganwyd 18 Ionawr 1719 yn Hafod-y-pant, Llanbrynmair. Yn 1738 dechreuodd bregethu'n achlysurol gyda'r Annibynwyr, eithr yn 1740 daeth o dan ddylanwad Howel Harris. Yn fuan wedyn aeth i ysgol Griffith Jones yn Llanddowror ac ymuno â'r Methodistiaid. Bu'n cadw ysgol ei hun yng nghymdogaeth Llanddowror ac yn cynghori yn seiadau'r Methodistiaid yn rhannau deheuol Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro. Yng nghymdeithasfa Watford, 5 a 6 Ionawr 1742/3, penodwyd ef yn ymwelydd cyffredinol y seiadau, a chyn diwedd yr un flwyddyn gosodwyd ef i arolygu'r seiadau a ffurfiasid yn Sir Drefaldwyn. Mewn cymdeithasfa yn Nantmel, 18 Ebrill 1744, pasiwyd ei fod i ymroddi'n gyfan gwbl i'r gwaith o ymweled â'r holl seiadau yn Sir Drefaldwyn unwaith bob wythnos. Ceir nifer o'i adroddiadau amdanynt ymhlith cofysgrifau Trefeca yn Ll.G.C. Er mai hollol naturiol oedd iddo barhau i deimlo ymlyniad wrth yr Annibynwyr, creodd hynny beth rhagfarn yn ei erbyn ymhlith rhai o'r Methodistiaid. Ysgrifennodd yntau lythyr maith at y gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Hydref 1745 yn mynegi ei safbwynt ar faterion crefyddol. Hyd y gwyddys, Tibbott, trwy gyfrwng y llythyr hwn, oedd y cyntaf i awgrymu'r priodoldeb o argraffu cyffes ffydd ac o sefydlu athrofa. Yn fuan wedi hyn gosodwyd holl seiadau Gwynedd o dan ei ofal, ac arolygai'r seiadau yn siroedd Trefaldwyn, Dinbych, Meirionnydd, a Chaernarfon. Ar y teithiau hyn cafodd lawer o'i wrthwynebu a'i erlid.

Pan ddaeth yr ymraniad rhwng Howel Harris a Daniel Rowland, glynodd Richard Tibbott wrth blaid Harris ar y cychwyn, eithr yn ddiweddarach, oherwydd y catholigrwydd ysbryd a barai iddo weled nodweddion da yn y naill a'r llall o'r pleidiau, trowyd ef allan ac ymunodd â phlaid Rowland. Parhaodd i lafurio gyda'r Methodistiaid hyd 1762, pan dderbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog eglwys Annibynnol yr Hen Gapel, Llanbrynmair. Urddwyd ef yn Nhachwedd y flwyddyn honno, ac yno y llafuriodd weddill ei oes, eithr teithiai lawer, gan bregethu'n fynych gyda'r Methodistiaid ac yn achlysurol gyda'r Bedyddwyr. Bu farw 18 Mawrth 1798. Brawd iddo oedd

JOHN TIBBOTT (bu farw 1785), yntau'n weinidog Annibynnol Crefydd.

Am rai blynyddoedd cyn urddo'i frawd bu'n cynorthwyo Lewis Rees, rhagflaenydd Richard fel gweinidog Llanbrynmair. Yn 1763 symudodd i Sir Gaerfyrddin i gymryd gofal eglwysi Ffaldybrenin ac Esgairdawe. Bu farw, yn sydyn, 6 Chwefror 1785, yn Esgairdawe, a'i gladdu ym mynwent Pencarreg. Mab iddo ef oedd

ABRAHAM TIBBOTT (1752 - 1808) Crefydd.

Ganed yntau yn Llanbrynmair, a chafodd gwrs o addysg yn y Fenni. Tua 1775 aeth yn weinidog i Rosymeirch, yr achos Ymneilltuol hynaf yn sir Fôn. Tua 1783 symudodd i Lanuwchllyn ac yn 1792 i Gymer Glyncorrwg a Llangynwyd, Morgannwg, lle bu'n gweinidogaethu am ddwy flynedd; cadwai ysgol hefyd yn Llangynwyd. Yn 1794 dychwelodd i Fôn ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu yntau farw yn sydyn, 19 Mehefin 1808, a'i gladdu yng nghapel Rhosymeirch.

Yr oedd i JOHN TIBBOT (c. 1757 - 1820), gwneuthurwr clociau, hefyd gysylltiad â'r teulu hwn. Tybir mai mab ydoedd i Richard Tibbot, Ty-croes, Pennarth, Llanfair-caereinion. Tua 1777 ymsefydlodd yn y Drenewydd fel gwneuthurwr clociau ac oriorau, a bu yno am 30 mlynedd. Yna symudodd i'r Cawg, Llanbrynmair, ac yno y bu'n amaethu, gan barhau i ymddiddori yn ei grefft gysefin, hyd ei farw yn 1820. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanbrynmair ar 24 Mawrth.

Y mae'n nodedig fel dyfeisydd mathau arbennig o glociau ac oriorau. Y mae tystiolaeth ar gael ddarfod iddo yn 1816 gyflwyno rhai o'i ddyfeisiadau i sylw'r ' Royal Society of Arts ' ac iddo gael cam oherwydd i'r pwyllgor a'u harchwiliodd, o fwriad neu mewn anwybodaeth, wrthod cydnabod bod unrhyw nodweddion arbennig yn perthyn iddynt. Y mae lle cryf i gredu, fodd bynnag, mai ei ddyfais ef yw'r pendil rhydd. Y mae amryw o'i glociau ar gael o hyd.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.