VIVIAN, HENRY HUSSEY (1821 - 1894),y barwn Swansea 1af, diwydiannwr ac arbenigwr mewn gweithio meteloedd a mwynau

Enw: Henry Hussey Vivian
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1894
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr ac arbenigwr mewn gweithio meteloedd a mwynau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 6 Gorffennaf 1821 yn Singleton Park, Abertawe (cnewyllyn cartref Coleg Prifathrofaol Abertawe wedi hynny) mab hynaf JOHN HENRY VIVIAN, marsiandwr copr, aelod seneddol dros Abertawe (1822-55), a'i wraig Sarah, merch Arthur Jones, The Priory, Reigate.

Ceir manylion llawn am yrfa Vivian yn y D.N.B.; yma, felly, ni roddir onid amlinelliad. O ysgol Eton aeth i Ffrainc a'r Almaen (1838-40) i astudio meteloedd a'r dulliau o'u trin; yn 1840 aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt. Yn 1842 dechreuodd ar ei yrfa ddiwydiannol fel pennaeth cangen Lerpwl o fusnes Vivian and Sons, gan ddyfod, maes o law, yn bartner. O 1845 hyd 1855, sef hyd y flwyddyn y bu farw ei dad, bu'n gofalu am waith copr yr Hafod, Abertawe, dros ei dad. O 1855 ymlaen arno ef y syrthiai'r cyfrifoldeb am y gwaith hwn yn gyfan gwbl. Hyd yn hyn toddi copr yn unig a wneid yng ngwaith yr Hafod. Gan fanteisio ar y profiad a gawsai yn Ffrainc a'r Almaen, dechreuodd Vivian ddatblygu'r gwaith. Cafodd amryw gynhyrchion eilradd allan o'r mwyn copr, ac yng nghwrs amser fe'i ceir yn ceisio (ac yn cael) patent ar ôl patent ynglŷn â gweithio meteloedd eraill - spelter, aur, arian, nicl, etc. - manylion yn y D.N.B. Yn 1864 dechreuodd gynhyrchu asid sylffurig o fwg copr ac yn 1871 adeiladodd waith y White Rock, gerllaw Abertawe, i ddelio â mwynau a oedd yn rhoddi arian. Nid gormodiaith yw dywedyd mai ei ymdrechion ef a wnaeth i Abertawe gael ei galw 'the metallurgical centre of the world.'

Yr oedd i Vivian ddiddordebau eraill heblaw trin meteloedd a mwynau. Ef oedd cadeirydd cyntaf cyngor sir Forgannwg. Ar ôl streic glöwyr De Cymru yn 1889 bu a fynnai ef lawer â dwyn i fod yr hyn a elwir yn 'sliding scale' ynglŷn â chyflogau'r glöwyr; gweler hefyd o dan William Abraham ('Mabon') a William Thomas Lewis. Bu'n cynorthwyo i wella cyfleusterau porthladdol Abertawe, ac yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr y Rhondda and Swansea Bay Railway. Bu'n aelod seneddol (Rhyddfrydol) dros Truro 1852-7, Morgannwg 1857-85, ac Abertawe 1885-93. Gwnaethpwyd ef yn farwnig ar 13 Mai 1882, ac yn farwn (y barwn Swansea 1af) ar 9 Mehefin 1893. Cyhoeddodd Notes of a Tour in America, 1878. Bu farw yn Singleton Park, 28 Tachwedd 1894, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Sgeti, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.