Ganwyd 5 Awst 1837 yn fab i Thomas William Lewis, peiriannydd gwaith haearn Plymouth (Merthyr Tydfil). Bu yn ysgol Taliesin Williams ('ab Iolo'), ond yn 13 oed prentisiwyd ef gyda'i dad.
Yn 1855 aeth i wasanaeth stad ardalydd Bute, yn beiriannydd cynorthwyol, ac yn 1864 penodwyd ef yn ofalwr ar holl fwyngloddiau'r stad. Yn yr un flwyddyn priododd Anne, ferch WILLIAM REES, perchennog glofa Llety-Shenkin, Aberdâr (bu hi farw yn 1902).
Taid iddi hi, ROBERT THOMAS (dyn o orllewin Cymru), a gymrodd brydles ar y Waun Wyllt (Abercanaid) yn 1824, ac a agorodd yn 1828, y lefel gyntaf i farchnata glo at ddibenion tai annedd (gynt, at doddi haearn yn unig y cynhyrchid glo ar raddfa fawr). Yr oedd wedi cysylltu ei fusnes â Llundain erbyn 1830. Bu farw 19 Chwefror 1833, a dilynwyd ef yn hyn gan ei weddw LUCY THOMAS ('mam y fasnach lo Gymreig,' 1781 hyd 27 Medi 1847), ac yn ddiweddarach, hyhi a'i mab WILLIAM THOMAS a ddechreuodd y fasnach mewn glo 'ager' rhwng Cymru a Llundain. Agorodd William Thomas lofa Llety-Shenkin yn 1843, a gweithiwyd hi wedyn gan ei frawd-yng-nghyfraith William Rees.
Bellach, nid yn unig yr oedd W. T. Lewis yn rheoli pyllau'r Bute yn Nhreherbert, ond daeth yn anturwr ar ei gyfrif ei hunan; rhwng 1870 a 1880 cafodd i'w ddwylo y pyllau yn rhan isaf Cwm Rhondda a adwaenid wedyn fel 'Lewis Merthyr'; chwiliodd am wythiennau glo yng Nghwm Rhymni; ac agorodd bwll 'Senghenydd' yn 1895. Yn 1880 rhoddwyd arno ofal holl fuddiannau'r Bute yn y Deheudir, a helaethodd yntau'r dociau yng Nghaerdydd yn ddirfawr wedi hynny. Tyfodd yn allu mawr iawn yn y fasnach lo a'r diwydiannau eraill a oedd ynglyn â hi. Yr oedd yn 1864-5 wedi ffurfio cynghrair o berchnogion glofeydd cwm Aberdâr, a datblygodd hwnnw erbyn 1872 yn ' South Wales and Monmouthshire Coalowners Association,' yn ymateb i gynnydd yr undebau llafur a'r streiciau mynych. Hawliai ef ei hunan mai efe a ddyfeisiodd ddull adnabyddus y 'raddfa symudol' ('sliding scale') at bennu cyflogau, ond priodolir hynny i wyr eraill hefyd, megis H. Hussey Vivian, arglwydd Abertawe - gweler Elizabeth Phillips, Pioneers of the Welsh Coalfield, 256-61.
O gymryd ei egwyddorion yn ganiataol, gellid maentumio bod Lewis yn wr dyngarol; ac er iddo gael ei ystyried yn ddyn caled, gelwid arno'n fynych i gyfryngu mewn ymrafaelion diwydiannol. Bu'n aelod o gryn nifer o ddirprwyaethau brenhinol ar bynciau'n dwyn perthynas â phyllau glo; gwnaeth ei ran hefyd yn llywodraeth leol ei sir a threfi Merthyr Tydfil ac Aberdâr. Urddwyd ef yn farchog yn 1885 ac yn farwnig yn 1896, a chodwyd ef i Dyr Arglwyddi yn 1911.
Cafodd ddau fab a chwech o ferched - un ohonynt oedd priod C. A. H. Green, archesgob Cymru wedyn. Bu farw 27 Awst 1914.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.