THOMAS, JOHN ('Eifionydd '; 1848 - 1922), cychwynnydd a golygydd Y Geninen;

Enw: John Thomas
Ffugenw: Eifionydd
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1922
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cychwynnydd a golygydd Y Geninen;
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 6 Awst 1848 mewn bwthyn gerllaw plasty Clenennau, Penmorfa, Sir Gaernarfon. Collodd ei dad pan oedd yn fachgen ifanc ac ni chafodd ysgol ddyddiol o gwbl. Yn 1858, pan nad oedd ond 9 oed, ac heb fedru darllen ysgrifen, aeth i swyddfa Robert Isaac Jones ('Alltud Eifion'), Tremadoc yn brentis - swyddfa Y Brython. Dysgodd grefft argraffu a bu'n gweithio wedi hynny ym Mhwllheli, y Rhyl, a Machynlleth. Ymddidorodd yn fawr mewn llenyddiaeth. Dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr a bu yng Ngholeg Aberhonddu, 1872-74. Oherwydd iddo gael gwely llaith pan oedd ar daith bregethu aeth i Lundain i fod o dan ofal meddyg, gan weithio yr un pryd yn swyddfa Eyre a Spottiswoode, argraffwyr. O Lundain aeth i Gaernarfon i swyddfa Y Genedl Gymreig, yn gysodydd i gychwyn, yna ar ochr busnes y newyddiadur hwnnw, ac wedi hynny yn olygydd iddo ac i'r Werin, newyddiadur arall. Yn 1881-2 golygodd ddwy gyfrol - Pigion Englynion fy Ngwlad. Yn 1881 cychwynnodd Y Geninen a pharhaodd i'w golygu hyd 1922. Golygai hyn ymohebu â lluoedd o ysgrifenwyr. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Gorsedd y Beirdd, tynnodd allan reolau i'r Orsedd, trefnodd ei harholiadau am wahanol urddau, a bu'n gofiadur iddi am dros 30 mlynedd. Enillodd wobrwyon mewn eisteddfodau am englynion a hir-a-thoddeidiau. Bu farw yng Nghaernarfon, 19 Tachwedd 1922 a chladdwyd ef ym mynwent y dref honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.