mab Owen a Mary Williams, dau o Lŷn; ganwyd yn Nhan y Manod, Rhostryfan, 29 Medi 1867. Pan oedd ef yn fachgen amharwyd ar ei olwg a'i glyw, dau aflwydd a'i gwnaeth yn ddall ac yn fyddar dros weddill ei oes. Yn 1880 symudodd y teulu i fyw yn y Tyddyn Difyr ar lethr Moeltryfan. Collwyd y tad trwy ddamwain ymhen ychydig flynyddoedd, a daeth y fam a'r bachgen yn ôl i Dan y Manod. Yn fuan ar ôl hynny bu farw'r fam a gadael y mab yn ddi-gefn ac yn analluog i'w amddiffyn ei hun. Cymerwyd ef at fodryb a drigai ym Mhorthmadog, ac yno y bu hyd ei farw, 19 Mawrth 1924. Dangosodd yn ieuanc duedd at farddoniaeth, ac er gwaethaf ei ddallineb meistrolodd reolau barddas, a chanodd liaws mawr o bryddestau, awdlau, telynegion, englynion, etc. Cyhoeddwyd llu o'i weithiau yn Cymru (O.M.E.) yn gystal ag mewn cylchgronau eraill. Enillodd ddeg o gadeiriau (yn eisteddfod yr Eifl, y Ddraig Goch, Lerpwl, Môn, y Fflint, a mannau eraill) Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth, sef Lloffion yr Amddifad, 1892, ac Ar Fin y Traeth, 1910. Bu'n wrthrych gofal a charedigrwydd ei gyfaill ' Eifion Wyn ' am gyfnod maith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.