Ganwyd yn Bryn Llidiart, Llanllyfni, 28 Mawrth 1871. Bu'n chwarelwr, yna yng Nghlynnog, yng Ngholeg y Gogledd (B.A. 1899, M.A. 1901), a'r Bala. Daeth yn weinidog eglwys Methodistiaid Calfinaidd Lewisham, 1901-5, a Thanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, 1905-12. Enillodd y goron yn eisteddfod genedlaethol 1902 am bryddest, ' Trystan ac Esyllt.' Yn 1900 cyhoeddodd ef a W. J. Gruffydd Telynegion, a nododd gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill yn 1904. Cyhoeddodd fwy o ganiadau wedi hyn, rai ohonynt o dan y ffugenw ' Rhosyr,' ond nis casglwyd ynghyd ag eithrio detholiad coffa bychan, Cofarwydd, 1930. Cyhoeddodd bamffled, Y Blaid Lafur Anibynnol, ei Hanes a'i Hamcan, 1908, ac etholwyd ef yn aelod Llafur ar gyngor sir Feirionnydd. Darlithiodd yn U.D.A. a Canada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Yn 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y rhyfel yn 1914 ymdrechodd yn galed yn ei swydd i gael penodi swyddogion o Gymry yn y lluoedd arfog. Bu'n swyddog dros Gymru o dan y Llywodraeth, 1918-22, i drefnu hyfforddiant i filwyr clwyfedig. O 1922 ymlaen bu'n ddarlithydd dosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac yn 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Teithiodd lawer ar y Cyfandir ac yn America. Ysgrifennodd yn helaeth i'r Glorian, Y Dinesydd Cymreig, Welsh Outlook, etc. Ef oedd awdur Gwyntoedd Croesion, 1924 (cyfieithiad o ddrama J. O. Francis, Cross Currents); Bugail Geifr Lorraine, 1925 (cyfieithiad o nofel Ffrangeg); ac yn 1945, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos. Bu farw 15 Awst 1930 ym Mangor. Priododd, 1905, â Mary Parry, Llundain; cawsant ddau fab a merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.