mab William a Mary Morris, Rhyd-ddu, Arfon; ganwyd 20 Mehefin 1852 yng Nghae'rgors, plwyf Beddgelert, ac yno ar aelwyd ei daid, Richard Roberts, y magwyd ef nes bod yn 13 oed. Fe'i bedyddiwyd gan ' Emrys ' (William Ambrose). Dewiswyd ef yn flaenor yn Rhyd-ddu yn 21 oed, a chymhellwyd ef i fynd i'r weinidogaeth yn 1876. Fe'i haddysgwyd yng Nghlynnog a Holt; aeth i Goleg y Bala yn 1878. Yn 1882 priododd Katherine, merch y Parch. David Morris, Caeathro; bu iddynt bedwar o blant. Ordeiniwyd ef yn yr Wyddgrug yn 1883. Bu'n weinidog Siloh, Caernarfon (1881-93), a'r Tabernacl, Blaenau Ffestiniog (1893-1924). Ymddiddorai'n ieuanc mewn barddoni, ac enillodd amryw o gadeiriau eisteddfodol; yn eu plith Corwen (1889), Meirion (1893), Gwŷr Ieuainc Gwrecsam (1894). Yr oedd yn ail orau am y goron yn eisteddfod genedlaethol Llanelli (1895) ar y testun ' Ioan y Disgybl Annwyl '; argraffwyd ei bryddest yr un flwyddyn yng Nghaernarfon. Ceir amryw o'i emynau yn Cân a Moliant (H. Haydn Jones), ac erys un emyn o'i waith - ' Ysbryd byw y deffroadau ' - yn drysor cenedl gyfan. Yr oedd ' Alafon,' ' Glan Llyfnwy,' ac yntau'n gyfeillion mawr. Ymneilltuodd yn 1924 ac aeth i fyw i Blas-y-coed, Betws Garmon, gan barhau i bregethu o fewn dwy flynedd i ddiwedd ei oes. Bu farw 24 Awst 1935, a chladdwyd ym mynwent Caeathro.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.