OWEN, OWEN GRIFFITH ('Alafon'; 1847-1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd.

Enw: Owen Griffith Owen
Ffugenw: Alafon
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1916
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd 8 Tachwedd 1847 ym Mhant Glas, Eifionydd, lle'r oedd ei dad yn cadw'r dafarn ar y pryd. Ychydig o addysg fore a gafodd, a dechreuodd weithio yn gynnar fel gwas bach ar ffarm. Symudodd pan oedd tua 12 oed i fyw gyda modryb yn ardal Carmel, Arfon, ac aeth i weithio yn chwarel Dorothea, Talsarn. Bu wedyn yn glerc yn chwarel y Braich, Llandwrog Uchaf. Dechreuodd farddoni a chystadlu yn ieuanc. Pan oedd tua 29 penderfynodd fyned i'r weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; bu yn ysgol Clynnog, yng Ngholeg y Bala, ac ym Mhrifysgol Edinburgh am rai tymhorau, ond ni raddiodd. Yn 1883 cafodd alwad i fugeilio eglwys Ysgoldy, ym mhlwyf Llandeiniolen, Arfon; ordeiniwyd ef ym Mehefin 1885. Ysgoldy oedd ei unig ofalaeth; bu yno hyd y diwedd. Nid oedd yn amlwg fel pregethwr, ond ystyrid ef yn batrwm o weinidog gwlad ac yr oedd yn bersonoliaeth hoffus iawn; yr oedd pobl, plant, ac anifeiliaid, gan gynnwys adar gwylltion, yn hoff o Alafon. Fel bardd bu'n cystadlu cryn lawer, ac yn agos at y gadair a'r goron genedlaethol fwy nag unwaith, ond heb eu cael. Yn ei englynion ac yn ei delynegion dwys a thyner y ceir ei waith gorau. Meddai hiwmor tawel ac ysgrifennai ryddiaith dda, gyda blas yr hiwmor hwnnw arni. Golygodd ddetholiad o weithiau llenyddol W. R. Jones ('Goleufryn') yn 1904. O 1913 hyd ei farw bu'n golygu 'r Drysorfa. Dau lyfr a gyhoeddodd, Cathlau Bore a Nawn, cyfrol o farddoniaeth, yn 1912, a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, yn 1915. Ni bu yn briod. Bu farw 8 Chwefror 1916, a chladdwyd ym mynwent Bryn'rodyn, Arfon.

Brawd iddo oedd WILLIAM GRIFFITH OWEN ('Llifon '; 1857 - 25 Medi 1922), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, ac arweinydd eisteddfodol o fri (gweler Y Geninen, 1923, 109).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.