Mab Owen ab Ieuan ap John o Benmachno, a olrheiniai ei hynafiaid o Ddafydd Goch, Penmachno, mab ordderch Dafydd, tywysog Cymru. Ei fam oedd Margaret ferch Robert ap Rhys ap Hywel. Ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond dywedir iddo farw yn 1637, a bod yr ysgrifen ' H.M. obiit 1637 ' ar ei garreg fedd ym mynwent Penmachno. Ymddengys iddo fod yn ddisgybl i Siôn Phylip, oherwydd yn ei farwnad i'r bardd hwnnw, yn 1620, cydnebydd dderbyn llawer ganddo yn ystod 35 mlynedd o gydnabyddiaeth. Dechreuodd y gyfeillach felly yn 1585. Cwynai Richard Phylip mewn cywydd iddo golli ei gwmnïaeth pan briododd. Yr oedd yn gâr ac yn fardd i deuluoedd Gwydir, Llechwedd Hafod, a'r Dulasau, a chanodd yn helaeth iddynt. Dywedir i arddwr Gwydir lunio delw'r bardd ar ei farch yn y coed. Canai hefyd i deuluoedd Gwynedd a sir Ddinbych, a chyn belled â Gogerddan yn y De. Bu'n ymryson ag Edmwnd Prys, a cheisiodd Siôn Phylip eu cymodi gan bwysleisio dysg Huw Machno, ei wybodaeth o Ladin ac o iaith moliant y beirdd. Ystyriai Siôn Phylip fod arno ragoriaeth mewn rhieingerdd, moliant, a dyfalu. Cadwyd dros 150 o'i gywyddau a'i englynion ar wasgar yn y llawysgrifau. Ceir darnau yn ei law ef ei hun yn llawysgrifau NLW MS 433B , Peniarth MS 327 , Mostyn 146, B.M. Add. 14998, Caerdydd 83 (sef llyfr Syr John Wynn o Wydir), Christ Church 184, ac efe a ysgrifennodd bron y cwbl o lawysgrif NLW MS 727D , sy'n cynnwys cryn dipyn o'i waith ef ei hun. Rhoes y llyfr hwn i Evan Llwyd, Dulasau. Ymhlith y marwnadau a ganodd y mae rhai i Gatrin o Ferain, 1591, Sion Tudur, 1602, yr esgob William Morgan, 1604, Siôn Phylip, 1620, a Thomas Prys o Blas Iolyn, 1634.
Bu iddo o leiaf dri o blant: Owain (a fu farw 1619, yn 11 oed, pan ganodd ei dad ei farwnad), Robert, a John.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.