PRICE (PRYS), THEODORE (1570? - 1631), prebendari yn abaty Westminster, prifathro Hart Hall, Rhydychen

Enw: Theodore Price
Dyddiad geni: 1570?
Dyddiad marw: 1631
Rhiant: Margery Stanley
Rhiant: Rhys ap Tudur ap William Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prebendari yn abaty Westminster, prifathro Hart Hall, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Bronyfoel, plwyf Llanenddwyn, Sir Feirionnydd, mab Rhys ap Tudur ap William Vaughan o Gilgerran (gweler Vaughan, Corsygedol) a Margery, merch Edward Stanley, cwnstabl Harlech. Aeth i Goleg All Souls, Rhydychen (B.A. 16 Chwefror 1587/8, M.A. 9 Mehefin 1591, cymrawd o Goleg yr Iesu, D.D. (o New College) 15 Gorffennaf 1614). Bu'n brifathro Hart Hall (Coleg Hertford yn awr), Rhydychen, o 1604 hyd 1614. Cafodd fywoliaeth Llanfair-juxta-Harlech ar 18 Hydref 1591; yn 1601 cafodd reithoraeth segurswydd Llanrhaeadr-yng-Nghinmerch, nid Llanrhaiadr-ym-Mochnant, fel y dywed y D.N.B. Cafodd fywiolaethau, etc., yn Lloegr hefyd. Ar 9 Medi 1596 gwnaethpwyd ef yn brebendari Winchester, yn 1609 daeth yn rheithor Launton yn sir Rhydychen - (yr oedd cyn hynny yn offeiriad Bletchingley yn Surrey) - yn 1621 gwnaethpwyd ef yn brebendari Leighton Buzzard yn eglwys gadeiriol Lincoln, ac, yn 1623, yn brebendari yn abaty Westminster. Yr oedd ei gâr, y deon John Williams (yr archesgob John Williams wedyn), yn noddwr iddo; gwnaeth Williams ef yn is-ddeon Westminster. Mynnai Williams (a Laud hefyd) ei weld yn esgob (gweler D.N.B., nodiad yr esgob Humphrey yn arg. Bliss o Athenae Oxonienses Anthony Wood, a'r Calendar of Wynn Papers, rhif 968). Williams hefyd a'i henwodd ef i fod yn un o'r comisiynwyr a oedd i ystyried cyflwr gwleidyddol ac eglwysig Iwerddon; gweler Cal. of Wynn Papers, rhifau 1002 a 1003. Y mae gan Siôn Phylip, ei gymydog ym Meirionnydd (a châr, o bell), gywydd iddo (NLW MS 3047C ) a chyfeiriad ynddo at ei obaith y gwneid Price yn esgob. Yn nes ymlaen cododd anghydfod rhwng y deon a'r is-ddeon a phan fu'r is-ddeon farw (15 Rhagfyr 1631) oedwyd ei gladdu yn abaty Westminster am chwe diwrnod oblegid i'r deon awgrymu i Price farw yn Babydd. Dywed William Prynne (Canterburies Doom, gweler Wood, Athenae Oxonienses) i Price fyw bywyd moethus, heb bregethu, a'i fod yn Armin, ac ychwanega iddo ymgymodi ag Eglwys Rhufain cyn ei farw. Heblaw Siôn Phylip canodd cymydog arall, Edmwnd Prys, archddiacon Meirionnydd, gywydd i Price (T. R. Roberts, Edmwnd Prys, gan ddyfynnu o B.M. Add. MS. 14874), a dengys E. D. Jones (yn N.L.W. Journal, v, 234, 236) i Humphrey Davies, ficer Darowen, ewythr i Price, ysgrifennu N.L.W. Brogyntyn MS. 2, sydd yn cynnwys cywyddau, i'w anfon i Price a oedd ar y pryd yn offeiriad Bletchingley, Surrey ac yn ganon yn eglwys gadeiriol Winchester.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.