VAUGHAN, RICHARD (1550? - 1607), esgob

Enw: Richard Vaughan
Dyddiad geni: 1550?
Dyddiad marw: 1607
Rhiant: Thomas ap Robert Fychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Glyn Roberts

Ganwyd c. 1550, yn ail fab Thomas ap Robert Fychan, Nyffryn, Llŷn, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1574, M.A. 1577, D.D. 1589). Yn fuan wedi 1577 dewiswyd ef yn gaplan i John Aylmer, esgob Llundain, gŵr y dywedir ei fod yn berthynas iddo (Baker, Hist. of St. John's College, Cambridge, 235. Cafodd amryw swyddi eglwysig - yn eu mysg ganoniaeth yn S. Paul's (1583) a'i ddewis yn archddiacon Middlesex (1588). Etholwyd ef yn esgob Bangor 22 Tachwedd 1595, symudwyd ef i Gaer 23 Ebrill 1597, ac oddi yno i Lundain yn 1604. Dywedir iddo gynorthwyo William Morgan gyda chyfieithu'r Beibl yn Gymraeg, ac iddo fod yn noddwr i eglwys gadeiriol Bangor. Pan oedd yn esgob Caer safodd yn gryf yn erbyn 'gwrthodwyr' Pabyddol a phan oedd yn esgob Llundain rhoes daw ar rai Piwritaniaid eithafol. Bu farw 30 Mawrth 1607.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.