o Eifionydd neu o Lŷn, a gymerodd ei enw, y mae'n debyg, oddi wrth yr afon Dwyfech (Dwyfach heddiw). Cafodd ei drwydded yn eisteddfod Caerwys, 1523. Ni wyddys lawer o fanylion am ei fywyd, ond awgrymir iddo ddal perthynas agos â theulu Talhenbont cyn iddo fynd fel bardd teulu i Gefnamwlch. Ymddengys iddo gyfyngu ei deithiau clera i Wynedd; canodd i'r rhan fwyaf o deuluoedd bonheddig y cylch, ac yn eu plith rai Cefnamwlch, Clenennau, Ystumcegid, Talhenbont, Plas Du, Glyn Dwyfech, Castellmarch, Llwyndyrys, Bodfel, Glynllifon, Trefeilir, a Gwydir. Gadawodd hefyd lawer o gerddi ar amrywiol destunau eraill, yn cynnwys cywyddau dychan, cywyddau ac englynion i ferch, amryw englynion yn cynnwys rhai crefyddol, un i'w wraig ei hun, rhai ateb i Huw Arwystl ac hefyd i Wiliam Llŷn, un i dref Caernarfon, ac un arall i Nefyn. Gwnaeth ei ewyllys ar ffurf tri englyn. Ynddi dymunai ei gladdu ym Mhenllech, ac ymddengys oddi wrth gywyddau marwnad a gyfansoddodd Siôn Phylip a Huw Pennant i'r bardd iddo gael ei ddymuniad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.