Graddiodd yn ddisgybl pencerddaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys yn 1568 - Peniarth MS 132 (59), Peniarth MS 144 (268). Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cadwyd nifer mawr o'i gerddi - yn awdlau, cywyddau, ac englynion. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn ganu moliant, marwnad, a gofyn i aelodau o wahanol deuluoedd bonheddig Gogledd Cymru. Yn eu plith ceir Bodeon, Bodfel, Bodrhyddan, Bryncir, Cefnamwlch, Cefnllanfair, Clenennau, Corsygedol, Glynllifon, Llyweni, Madryn, Myfyrian, Mysoglen, Penrhyn, Plas Du yn Eifionydd, Plas Newydd ym Môn, Porthamel, Rhiwedog, Rhiwlas, ac Ystumcegid.
Dylid gwahaniaethu rhwng barddoniaeth hwn â 'Syr' Huw Pennant a oedd yn byw tua chanrif o'i flaen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.