Mab hynaf William ap Griffith ap John (bu farw 1587) a'i wraig gyntaf, Margaret, merch Humphrey Wynn ap Maredudd, Cesail Gyfarch (bu farw 1583), cefnder i dadcu Syr John Wynn o Wydir (gweler dan WYNN (TEULU) Gwydir). Yr oedd ei hendaid, John ap Robert ap Llywelyn ab Ithel alias John Roberts, Castellmarch (Llangïan) yn un o'r swyddogion lleol cyntaf a apwyntiwyd yn Sir Gaernarfon dan y Ddeddf Uno (1542), a bu'n siryf y sir yn 1548. Bu ei dadcu, Griffith ap John, yng ngwasanaeth John Dudley, Iarll Warwick (yn ddiweddarach Dug Northumberland) cyd-raglyw dros Edward VI, a gwnaed ef yn gwnstabl castell Caernarfon (1549). Oddi wrth John y mabwysiadwyd y cyfenw Jones gan rai o frodyr William ap Griffith, a'i ddefnyddio'n gyson o gyfnod ei fab, William. Y mae gosodiad Anthony Wood (a gywirwyd gan Humphrey Humphreys yn argraffiad Bliss o Athenae Oxonienses), fod William Jones wedi derbyn ei addysg yn ysgol ramadeg Biwmares yn amlwg yn anghywir, oherwydd bu'n cynorthwyo a chynghori David Hughes (bu farw 1609), ynglŷn â sefydlu'r ysgol honno pan oedd yn fargyfreithiwr addawol, a bu'n ymddiriedolwr i'r ysgol a'r elusendai. Ymaelododd yn S. Edmund Hall, Rhydychen (1580?), ac aeth oddi yno heb radd i Furnivall's Inn (1585) ac i Lincoln's Inn (1587). Gwnaed ef yn fargyfreithiwr 1595, ac apwyntiwyd ef yn ddarllenydd tymor y Grawys yn 1616. O 1603 ymlaen bu'n cynghorwr cyfreithiol i'w berthynas, Syr John Wynn, a bu'n ei gynorthwyo yn ei achosion cyfreithiol aml (llawer ohonynt yn erbyn nai ei wraig ef ei hun, John Griffith II, Cefnamwlch, gweler yr erthygl ar y teulu hwnnw), ac yn ei ymdrechion mewn etholiadau seneddol. Bu hefyd yn gohebu ag ef ynglŷn â llenyddiaeth a hynafiaethau Cymru. Bu'n aelod anamlwg dros Fiwmares yn senedd 1597 a thros sir Gaernarfon yn senedd 1601. Dechreuodd fod yn weithgar ar bwyllgorau yn senedd 1604-11, ac yn senedd 1614, - pan gynrychiolai Fiwmares eto - cymerodd ran flaenllaw yn y gwrthwynebiad i hawliau'r brenin ynglŷn â chyhoeddiadau (dan y Ddeddf Uno) ac ardrethiadau. Yn 1617 urddwyd ef yn farchog, gwnaed ef yn siarsiant y gyfraith, a danfonwyd ef i Iwerddon fel arglwydd brif farnwr Mainc y Brenin. Dychwelodd yn 1620 a gwrthododd dderbyn ei enwi fel ymgeisydd seneddol dros sir Gaernarfon (lle y cyfrifid ef erbyn hyn yn 'brif ddyn'), ond dewis yn hytrach gynorthwyo ymgais aflwyddiannus Syr John Wynn yn erbyn John Griffith. Yn 1621 enwebwyd ef gan yr Esgob John Williams (1582 - 1650), fel un o farnwyr llys y Pledion cyffredin. Derbyniodd y swydd, ond heb fod yn eiddgar, am ei bod, meddai ef, yn golygu colled o £300 y flwyddyn iddo. Yn 1623 symudwyd ef i Fainc y Brenin. Yn unol â'i gyngor ef prynodd Williams y Penrhyn (cam y bu'n edifar ganddo i gymryd), yn 1622. Hwyrach mai hyn ac ymddygiad mab Wynn, sef Syr Richard, a fu'n gyfrifol i raddau am y rhwyg rhwng Syr William a'r Arglwydd Geidwad ac a theulu Gwydir, rhwyg a arweiniodd i'w wrthwynebiad llwyddiannus i gynnig Syr Richard i fod yn un o swyddogion y ' Greenwax ' (1624). Er gwaethaf y cweryl hwn collodd ffafr Buckingham yr un pryd â'i noddwr, a drylliodd hyn ei obeithion am ddyrchafiad pellach. Ymneilltuodd i Gastellmarch yn 1625 ac yn ystod y tair blynedd nesaf ailadeiladodd y tŷ, yn debyg, i raddau helaeth, i'r hyn ydyw heddiw. Disgrifir ei yrfa fel barnwr yn llawn yn D.N.B. Bu farw yn Holborn 9 Rhagfyr 1640, a chladdwyd ef yng nghapel Lincoln's Inn. Priododd yn gyntaf Margaret, merch Griffith ap John Griffith o Gefnamwlch, a bu iddynt bum mab (bu un farw yn faban) a chwe merch. Bu ei wraig gyntaf farw yn 1609 ac yna priododd weddw o Saesnes. Ni chafwyd plant o'r ail briodas.
Etholwyd ei fab hynaf, WILLIAM JONES, bargyfreithiwr, yn aelod seneddol dros Fiwmares yn 1647, ond trowyd ef allan yng Ngharthiad Pride yn y flwyddyn ganlynol. Gyda'i frawd, Charles, cyd-ddaliodd olyniaeth swydd protonoter a chlerc y goron yn siroedd Dinbych a Threfaldwyn nes iddynt ei rhoi i fyny yn 1636. O 1655 i 1660 bu'n gofiadur yr Amwythig.
Rhoddwyd yr ail fab, GRIFFITH JONES, ar gomisiwn arae Sir Gaernarfon gan Siarl 1 (12 Awst 1642), ond yn fuan cododd cweryl rhyngddo a John Griffith II o Gefnamwlch ynglŷn â gorchymyn brenhinol i symud gynnau o arfordir Llŷn i amddiffyn y gororau. Haerai Jones y byddai hyn yn dra pheryglus i amddiffyniad yr arfordir. Wedi hyn ymddengys na chymerodd fawr ran mewn bywyd cyhoeddus hyd oni apwyntiwyd ef i bwyllgor trethu'r sir ym mis Mehefin 1647 ar ôl i'r sir syrthio i ddwylo'r senedd. Ar 6 Mawrth 1649 croesodd y capten brenhinol, Bartlet, o Wexford, gan ysbeilio Gastellmarch, a chipio Griffith Jones, hwyrach fel gwystl dros fywyd Syr John Owen a gondemniesid i farwolaeth ychydig cyn hynny. Parhaodd i wasanaethu ar bwyllgorau sirol (hyd yn oed tan gyfundrefn Barebones) hyd nes i'r Weriniaeth syrthio, ond nid oedd yn bleidiol i'r Biwritaniaeth a oedd mewn bri. Erbyn Mawrth 1660 daethai'n gefnogwr i'r Adferiad, gan wasanaethu fel ustus sirol yn y corlannu ar y drwgdybiedig, a hefyd ym milisia 'r sir. Er hynny fe'i cafodd ei hun ymhlith y rhai o Lŷn a garcharwyd yng Nghaernarfon am beth amser ar ôl yr Adferiad oherwydd drwgdybio'u syniadau gwleidyddol. Yn 1663, fodd bynnag, enwyd ef yn siryf. Priododd ei ferch, Margaret, Syr William Williams, y Faenol.
Bu'r trydydd mab, ROBERT JONES, yn aelod seneddol dros Gaernarfon yn 1625 a 1626, a thros sir y Fflint yn 1628-9. Yr oedd yn siryf ei sir yn 1644 ac yn llywodraethwr brenhinol Caernarfon ym mis Mawrth 1645.
Bu'r pedwerydd mab, CHARLES JONES, bargyfreithiwr o Lincoln's Inn, yn gofiadur Biwmares o 1625 ymlaen, ac yn aelod seneddol dros y fwrdeisdref honno yn seneddau 1624, 1625, 1626, a 1628-9. Yn y Senedd Fer, 1640, etholwyd ef dros Fynyw hefyd. Cynorthwyodd Selden i baratoi cyhuddiadau yn erbyn Buckingham yn senedd 1626, ac yn senedd 1628 bu'n cyd weithio ag Edward Littleton, yr aelod dros Gaernarfon a barnwr ar gylchdaith sir Fôn (gŵr ei chwaer, Elizabeth), yn y paratoadau ar gyfer y ' Petition of Right '. Pan ddaeth senedd 1628 i ben bu'n amddiffyn un o'r aelodau a gyhuddwyd o ymddygiad bradwrus yn y Tŷ. Yr oedd yn siryf ei sir yn 1638, ac yn y Senedd Fer ef oedd cadeirydd y pwyllgor breintiau. Bu farw yn fuan ar ôl hyn. Ef a William Price, Rhiwlas (gweler PRICE (TEULU), Rhiwlas, oedd sylfaenwyr elusendai Llangybi. Daeth llinell wrywaidd y teulu i ben gyda'i genhedlaeth ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.