Mab Edward a Maria Lloyd, Nant, yn nhref ddegwm Cilcain, Sir y Fflint. Ef oedd yr ail o dri o blant - Mary a aned yn 1714, Robert 12 Tachwedd 1716, David yn 1720. Bu'r tad farw yn 1727. Yn 1746 priododd Robert â merch o'r ardal o'r enw Dorothy, ac aethant i fyw i dyddyn Tarth-y-dŵr, Cilcain. Dangosodd Robert dueddiadau crefyddol yn fuan ar ôl priodi. Yn sasiwn Llanfair-ym-Muellt, 1 Chwefror 1748/9, dywaid William Richard, y cynghorwr a anfonwyd i Wynedd : ' There is a door open to preach the word in flintshire, great many comes to hear and behave very quiet. ' Diau fod Robert Llwyd yn un o'r lliaws. Yr oedd yn y sir elyniaeth gref i'r grefydd newydd gan ddosbarth arbennig, ac un o'r dioddefwyr cyntaf oedd gŵr ifanc Tarth-y-dŵr, a bu orfod iddo ymadael â'i fferm. Arch-elyn y grefydd newydd oedd y siryf, Hugh Hughes, Coed-y-brain - y mae cofadail iddo ym mynwent Ysgeifiog yn nodi ei sêl yn erlid 'y Methodistiaid penchwiban.' Yng ngwanwyn 1749 symudodd Robert Lloyd gyda'i briod ac un plentyn i Blas Aspwl (Ashpool) ym mhlwyf Llandyrnog yn nyffryn Clwyd. Nid oes sicrwydd pa bryd y dechreuodd Robert Llwyd gyda'r grefydd newydd yn nyffryn Clwyd. Nid oedd groeso iddo wneud hynny ar ei aelwyd ei hun, oherwydd gwrthwynebiad ei briod, ond dechreuodd mewn tŷ to gwellt o'r enw Tŷ Modlen heb fod nepell o'i gartref. Dywaid ei gofianwyr iddo ddechrau'n fuan ar ôl dod i Blas Aspwl. Ond nid cywir mo hynny. Yr oedd yr erlid yn Ninbych yn ei anterth y pryd hynny, a'r ymraniad rhwng Howel Harris a Daniel Rowland yn peri na bu diwygwyr o'r De ar ymweliad â'r Gogledd am oddeutu 10 mlynedd, ac yr oedd Robert Llwyd yn aelod ffyddlon o'r Eglwys, ac yn gyfeillgar â'r person. Nid oes le i dybied i'r achos gychwyn yn Nhŷ Modlen hyd ail ymweliad y diwygwyr â dyffryn Clwyd, tua 1759-60; a dyma ddechreuad Methodistiaeth dyffryn Clwyd. Yn Nhŷ Modlen yr argyhoeddwyd John Owen, Berthen Gron, cychwynnydd Methodistiaeth Sir y Fflint, ac yno hefyd y clywodd Edward Williams (Glan Clwyd) Daniel Rowland, ac y dwysbigwyd ef ganddo; yr oedd Robert Llwyd yn gyfeillgar ag Edward Parry, Bryn Bugad, a buont yn cydlafurio â'i gilydd yn cynnal seiadau a chynghori. Daeth Dorothy Llwyd, hithau, i groesawu'r diwygwyr ar ei haelwyd, a bu Williams, Pantycelyn yno am wythnos yn wael, ar un o'i deithiau olaf i'r Gogledd. Bu Robert Llwyd farw 12 Medi 1792, a chladdwyd ef ym mynwent Llandyrnog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.