Ganwyd yn 1733 ym Mwrcwd, plwyf Ysgeifiog, Sir y Fflint. Brodorion o Aberdaron yn Llŷn oedd ei rieni, a bu iddynt bedwar o blant - John, Humphrey, Sarah, ac Ann. Saer oedd John wrth ei alwedigaeth, a phrydydd dawnus. Cyfansoddodd anterliwtiau, ac yr oedd yn chwaraewr poblogaidd ym more'i oes. Dychwelodd at grefydd tua'r flwyddyn 1762, trwy bregeth Daniel Rowland yn Nhŷ Modlen, Llandyrnog, Dyffryn Clwyd. Ar 22 Rhagfyr 1763 priododd â Mary Edwards, Plas Llangwyfan, ac aethant i fyw i'r Berthen Gron yn ei blwyf genedigol, ac yn fuan agorwyd y tŷ i'r diwygwyr o'r Deheudir. Yr oedd Mary Owen yn wraig anghyffredin; aeth ar ei merlen saith o weithiau i Langeitho, pellter o dros 200 milltir yn ôl a blaen, i geisio pregethwyr i ddod i'r Berthen a Dyffryn Clwyd. Yn 1766 dechreuodd John Owen bregethu. Daeth Humphrey, ei frawd, hefyd yn bregethwr cymeradwy, a dioddefodd y ddau erledigaethau chwerw. Yn 1775 dechreuodd John Owen godi y capel cyntaf ar ei gost ei hun, ac yr oedd yn barod i'w agor yn 1776. Aeth i Langeitho i geisio gan Daniel Rowland ddyfod i'w agor, ond bu farw yn Llangurig wrth ddychwelyd yn ôl, a chladdwyd ef ym mynwent Ysgeifiog ar 8 Awst 1776; daeth Daniel Rowland, yn ôl ei addewid. Bu Mary Owen farw ar 5 Ebrill 1789 yn 51 mlwydd oed a chladdwyd hi ym meddrod ei phriod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.