PULESTON, JOHN (c. 1583 - 1659), barnwr

Enw: John Puleston
Dyddiad geni: c. 1583
Dyddiad marw: 1659
Priod: Elizabeth Puleston (née Woolrych)
Plentyn: John Puleston
Plentyn: Roger Puleston
Rhiant: Richard Puleston
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Arthur Herbert Dodd

mab hynaf RICHARD PULESTON, a aned yn Allington, sir Ddinbych, yn 1548, yn bedwerydd mab i'r Syr Roger Puleston o Emral a fu farw yn 1587, ac yn frawd i Syr Roger (1566 - 1618) (gweler yr ysgrif ar y teulu), ac a fu'n rheithor Astbury yn sir Gaerlleon o 1577 hyd 1596 - bu hefyd yn rheithor segurswydd Llaneugrad ym Môn (1592-6), ac yn rheithor Kingsworthy (Hants) o 1596 a'r Hôb (Estyn) o 1597 hyd ei farw tua 1616.

Fel ei dad, aeth John Puleston i Rydychen (Coleg Oriel), 1601. Aeth i'r Middle Temple (o Clifford's Inn), 1606; galwyd ef at y Bar ar 8 Gorffennaf 1614 - daeth yn ' Reader ' ac yn ' Bencher ' yn y Middle Temple yn 1634 ac yn drysorydd yn 1646. Adroddir ei yrfa gyfreithiol yn y D.N.B. : yn 1643 gofynnodd Ty'r Cyffredin i'r brenin ei benodi'n un o farwniaid y Trysorlys, ond gwrthododd y brenin; yn 1648 rhoes y Ty'r radd o ' serjeant ' iddo; a phan ymddiswyddodd yr holl fainc ar ddienyddiad Siarl (1649), penododd y Senedd ef (1 Mehfin) yn farnwr yn y 'Common Pleas,' eithr ni pharhaodd Cromwell ef yn y swydd (1653).

Yn herwydd marw ei ewythr Syr Roger Puleston yn ddiblant yn 1618, a'i ewythr iau George, yn 1634, yntau'n ddiblant, yr oedd John Puleston yn awr yn ben y teulu. Yr oedd ei wraig Elizabeth (ferch Syr John Woolrych o Dudmaston yn Sir Amwythig) yn Bresbyteriad selog, ac yr oedd hi a'i phlant bychain yn byw yn Emral ar doriad y Rhyfel Cartrefol. Bu raid iddynt ymado â'r fan pan roddwyd garsiwn Frenhinol yn Emral, tua Medi 1642, gan Syr John Hanmer - ceisiwyd dadlau ar ran Hanmer wedyn mai ar gais Mrs. Puleston ac i achub y lle rhag difrod y gwnaeth ef felly. Llochesodd y teulu gyda chymdogion, a serch i wyr y Senedd adfeddiannu Emral dros dro tua Mawrth 1644 ac yn derfynol tua, diwedd y flwyddyn honno, nid ymddengys i'r teulu fyw ynddo wedyn nes ymadawodd Puleston â'r fainc yn 1653. Y pryd hynny penododd Philip Henry yn berson plwyf Worthenbury (yr oedd wedi prynu'r hawl i benodi) ac yn athro i'w blant - yr oedd y ddau hynaf, Roger a John, eisoes wedi ymaelodi yn y Middle Temple (1 Mai 1647). Bu Philip Henry fyw yn Emral nes cododd Puleston dy iddo yn Worthenbury; noda yn ei ddyddlyfrau y byddai'n arfer gan Puleston wrth adnewyddu prydlesoedd ar ei stad, yn hytrach na mynnu i'w denatiaid gadw ei hela neu hebog, roi'r amod iddynt gadw Beibl yn eu tai. Yr oedd yn aelod o'r ' North Wales Composition Committee ' (1649), yn un o gomisiynwyr Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1650), ac yn aelod o lawer pwyllgor sir seneddol yn siroedd Dinbych a'r Fflint (1647-57). Bu farw yn Emral, 5 Medi 1659. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Roger (uchod), a hwnnw gan ei aer yntau, Syr Roger Puleston (1663 - 1697 - gweler yr ysgrif ar y teulu); sylwer na chafwyd aelod seneddol o'r teulu pwysig hwn rhwng 1611 a 1689. Darfu llinach wrywol Emral yn 1732, ac ewyllysiwyd y stad i John Puleston o Pickhill, disgynnydd o fab iau y Roger Puleston a oedd yn byw yn amser Harri VI. Bu farw ei fab yntau heb adael mab, ac aeth y stad i wr ei ferch, sef Richard Parry Price, Bryn-y-pys; cymerth mab hwnnw'r cyfenw ' Puleston,' a chrewyd ef yn farwnig yn 1813. Darfu'r farwnigiaeth pan fu farw Syr Theophilus Puleston yn 1890, yn ddietifedd (Burke's Peerage, arg. 1869 a 1913).

Brawd iau John Puleston oedd RICHARD PULESTON (ganwyd 1591), clerigwr fel ei dad, cymrawd o Goleg Wadham yn Rhydychen, a D.D., a ddilynodd ei dad yn Estyn ac yn Kingsworthy. Mab iddo ef oedd HAMLET PULESTON (1632 - 1662), ysgrifennwr ar bynciau gwleidyddol - y mae ysgrif arno yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.