EVANS, JOHN (1702 - 1782), clerigwr gwrth-Fethodistaidd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1702
Dyddiad marw: 1782
Rhiant: Rice Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr gwrth-Fethodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Meidrym 2 Medi 1702, yn fab i Rice Evans ac yn ŵyr i Thomas Price, a fu'n ficer Meidrym gyda Llanfihangel Abercywyn am 39 mlynedd. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle'r ymaelododd 26 Chwefror 1721-2, ond ni raddiodd (er y dywedir gan rai iddo raddio). Yn 1730, cafodd fywoliaeth Eglwys Cymyn (sillebir yr enw amryw ffyrdd) gan y Goron, ond ni wasnaethai'r plwyf ond am ychydig wythnosau bob haf - bu Peter Williams yn gurad iddo, ond cafodd ei droi ymaith am fod yn Fethodist. Yn Llundain yr oedd John Evans yn byw - yn Cowley Street, Westminster; yr oedd Richard Morris o Fôn yn gymydog a chyfaill iddo. Yr oedd mewn ffafr gan Edmund Gibson, esgob Llundain, a thua 1742 penodwyd ef yn ' Ddarllenydd ' (h.y. yn gaplan na byddai'n pregethu) yng Nghapel y Brenin yn Whitehall. Yn 1750, pregethodd i'r ' Society of Antient Britons ' ar ddydd Gŵyl Ddewi, a chyhoeddwyd y bregeth. Yr oedd yn aelod gwreiddiol (1751) o'r Cymmrodorion, ac yn aelod o gyngor y gymdeithas honno. Golygodd yn 1769 argraffiad o'r Beibl Cymraeg nad oedd ei orgraff wrth fodd y Morysiaid. Eithr enillodd lawer mwy o sôn (yn hytrach, o anghlod) drwy ei ymosodiadau ar Griffith Jones ac ar Fethodistiaeth - yn hyn o beth, dilynodd esiampl ei noddwr Gibson a chafodd ei anogaeth hefyd. Eisoes yn 1745 yr oedd rhyw ddrwg rhyngddo a Griffith Jones; yn 1749 cyhoeddodd bamffledyn yn ei erbyn ef a Whitefield, ac yn 1752 ei draethawd Some Account of the Welch Charity Schools (etc.), ymosodiad bustlaidd dros ben, sydd er hynny'n cynnwys manylion gwerthfawr na ddylid mo'u hanwybyddu, er mor anodd yw gwahanu rhwng y ffeithiau a'r tro a rydd Evans iddynt. Gwnaeth y llyfr lawer mwy o ddrwg i enw John Evans nag i Griffith Jones. Bu farw ym Mawrth 1782; claddwyd yn Eglwys Cymyn, meddai rhestr y plwyf, 14 Mawrth 1782.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.