Mab Griffith Ellis o Ystumllyn ger Cricieth. Cafodd ei addysg yn Rhydychen, lle y daeth yn gymrawd o Goleg Iesu. Yr oedd yn aelod o'r coleg pan ddaeth y profwyr Piwritanaidd yno yn 1648; pan ofynnwyd iddo a oedd am ymostwng i awdurdod y Senedd yn rhin ymweliad y profwyr, dywedodd na fedrai heb beryglu daioni ei enaid. Yn ddiweddarach ymostyngodd, penodwyd ef yn gymrawd yr ail waith yn 1649, cafodd swydd 'Censor' yn ogystal, ac yr oedd ar y pen blaen yn ymosod ar Dr. Michael Roberts, y prifathro newydd a'r rhagrithiwr Piwritanaidd. Yn 1660 adferwyd yr hen brifathro, Francis Mansell, a phenodwyd Ellis yn is-brifathro. Siomwyd ef yn fawr na chafodd le Mansell yn 1661, ac anaml y gwelid ef o gylch y coleg. Ar ôl marw Dr. John Ellis, perthynas iddo yn ôl pob hanes, penodwyd ef yn rheithor Dolgellau yn 1666, ac yno y bu hyd ei farwolaeth yn 1673. Yr oedd i Ellis enw uchel fel hynafiaethydd, a dyfnheid yr argyhoeddiad hwnnw gan y wybodaeth ei fod yn gyfaill mawr â Robert Vaughan o'r Hengwrt. Yn anffodus, cymylwyd llawer ar yr enw hwn yn ystod ei fywyd ef ei hun, gan ei resymau tila dros beidio â chyhoeddi argraffiad newydd o Historie Dr. David Powell, a oedd yn barod ganddo; yn ein hoes ni (drwy farn y diweddar Syr John Edward Lloyd) cymylwyd mwy ar ei enw da gan y gred nad ef oedd gwir awdur y Memoirs of Owen Glendower, a briodolid iddo, ond Robert Vaughan - mai copïwr yn unig oedd Ellis, neu arolygwr ar y gorau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.