Rheithor Dolgellau o 1646 i 1665. Ganwyd, fel y nodir yn ei ewyllys yn y Gwylan, Maentwrog. Cafodd ei addysg yn Rhydychen (nodir yn ei fatricwleiddio ei fod o Llandecwyn, Meirionnydd), a daeth yn gymrawd o Goleg Iesu yn 1628, ond D.D. o S. Andrews oedd ganddo (1634). Bu'n rheithor Wheatfield yn sir Rhydychen nes ei enwi'n rheithor Dolgellau gan gomisiynwyr y Sêl Fawr; digwyddodd hyn pan oedd polisi crefyddol y wlad yn nwylo arglwyddi Piwritanaidd, Pwyllgor y Gweinidogion Llwm, a Chymanfa Westminster, i gyd yn bobl uniongred ochelgar, Presbyteraidd eu hosgo; nid oedd y dynion eithafol a lywiai'r ' Pride's Purge ' ac a goncrodd yn yr ail Ryfel Cartref wedi dod yn ben weithian. Yr oedd i'r mudo o Loegr i Feirionnydd un fantais go fawr, sef y tâl a ddigwyddai o'r fywoliaeth newydd, yn ymyl £100 y flwyddyn, a £40 ychwanegol a ddyfarnwyd iddo gan yr awdurdodau Piwritanaidd. Enwyd Ellis fel un o'r 25 profwr o dan Ddeddf y Taeniad; gwelir ei enw, yn awr ac eilwaith, yn tystio i rinweddau pregethwyr a oedd yn disgwyl ffafr y ' Triers '; yr oedd gyda'r amlycaf yn galw am sefydlu academi i godi pregethwyr Piwritanaidd, ac yn barod i weithredu fel darlithydd ynddi hyd nes ceid rhywun teilyngach. Prin y buasai neb yn cyfrif y doethur yn Biwritan selog, ac nid oes fawr ddadl nad ei brif reswm dros sefydlu coleg oedd llarieiddio penboethni anwybodus llawer o'r pregethwyr newydd. A phrawf ei sylwadau llym ar rai o benodiadau'r ' Triers ' yng Nghymru, gyda'r geiriau mawrhaol amdano yntau a arferir gan Eglwyswr mor ddigymrodedd â Rolant Fychan o Gaergai, mai bychan oedd ei gydymdeimlad â llawer o bethau a wneid yn enw Piwritaniaeth. Ni chafodd anhawster o gwbl i droi at yr Eglwys yn 1660, canys yn y flwyddyn honno cyhoeddodd y Defensio Fidei, amddiffyniad Lladin o gredo a safle'r Anglicaniaid, ac esboniad ar y Deugain Erthygl Namyn Un (dywaid Rolant Fychan iddo gael, o dan law'r Doctor, gopi o bamffled yn pleidio arfer y Weddi Gyffredin, a hynny rai blynyddoedd cyn 1660). Bu farw yn 1665, a thrwy ei ewyllys yn rhoddi darn o dir ym mhlwyf Llanaber at gadw ysgolfeistr yn Nolgellau i ddysgu 12 o fechgyn o dan 16 oed, yn enwedig plant amddifaid, edrychir arno fel sylfaenydd ysgol ramadeg y dref honno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.