Ganwyd 22 Hydref 1736 yn Tyddyn Ysguboriau, Ynyscynhaearn, Eifionydd, yn fab i Thomas Rowland; brawd iddo oedd Richard Thomas (1750 - 1780), a nai fab chwaer oedd Ellis Owen o Gefnymeusydd. Addysgwyd ef yn Llanystumdwy, Llanegryn, Botwnnog, a'r Friars ym Mangor. Ymaelododd yn Rhydychen 20 Mawrth 1755 o Goleg Iesu, lle'r oedd John Lloyd 'o Gaerwys' yn gyfaill iddo; urddwyd ef yn Rhydychen yn 1760. Yr oedd yn 'under-keeper of the Museum' yno, ond ni allai fyw ar ei gyflog - nid am fod hwnnw'n fychan (meddai William Morris o Fôn), ond am ei fod yn yfwr trwm; felly aeth yn gurad i Gaergybi ddiwedd 1760. Ddiwedd 1761 cafodd le is-athro yn y Friars, a churadiaeth Llandygai a oedd yn cydfynd â'r swydd honno. Yn 1766, penodwyd ei beriglor yng Nghaergybi, Richard Langford, yn brifathro ysgol ramadeg Biwmares, ond aeth John Thomas yno'n ddirprwy iddo - nid manwl gywir, felly, yw'r dyb arferol i John Thomas fod yn brifathro'r ysgol. Gyda'i swydd, daliai guradiaethau Llansadwrn a Llandegfan. Bu farw'n ddisyfyd ar ddydd Llun y Pasg (27 Mawrth) 1769, yn Castellior; claddwyd yn Llandegfan, 'yn 33 oed' - yn gywirach, yn ei 33 flwydd. Yn ôl tystiolaeth unfryd y Morysiaid, Hugh Hughes ' y Bardd Coch ' (a ganodd farwnad iddo), a ' Ieuan Fardd,' yr oedd yn ysgolhaig Cymraeg neilltuol dda, ac yn feistr ar achau; copïai hen lawysgrifau - aeth y rheini i'w frawd, Richard, a chwalwyd hwy pan fu hwnnw farw; dywed Ellis Owen fod Hugh Maurice wedi defnyddio llawer ohonynt at y The Myvyrian Archaiology of Wales . Ni chyhoeddwyd dim o'i waith yn ystod ei fywyd, ond dangosodd Syr J. E. Lloyd (ar dystiolaeth John Lloyd o Gaerwys a 'Gwallter Mechain') mai ef bioedd yr History of the Island of Anglesey a gyhoeddwyd yn ddi-enw yn 1775; a chynhwysodd William Williams o Landygai waith John Thomas, ' A Genealogical Account of the Families of Penrhyn and Cochwillan,' yn ei Observations on the Snowdon Mountains, 1802.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.