THOMAS, RICHARD (1753 - 1780), clerigwr a chynullydd llawysgrifau ac achau

Enw: Richard Thomas
Dyddiad geni: 1753
Dyddiad marw: 1780
Rhiant: Jane Rowland (née Jones)
Rhiant: Thomas Rowland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a chynullydd llawysgrifau ac achau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 10 Rhagfyr 1753, mab Thomas Rowland, Tuhwnt i'r Bwlch, plwyf Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, a Jane Jones (J. E. Griffith, Pedigrees, 359). Bu yn Ysgol y Friars, Bangor, cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 28 Tachwedd 1771; B.A. 1775). Tua diwedd 1777 cafodd guradiaeth Llanegryn, Sir Feirionnydd, a'i ddewis yn athro ysgol yno. Erbyn mis Mai 1779, os nad cyn hynny, yr oedd yn gurad Rhuthyn, lle y bu farw yn 1780. Fel y dengys J. E. Griffith (loc. cit.), yr oedd cysylltiad teuluol rhwng Richard Thomas â Dr. Griffith Roberts, Dolgellau, a oedd yntau yn gasglwr llawysgrifau ac a ddaeth i feddu rhai o lawysgrifau Thomas, e.e. Peniarth MS 201 . Peth arall hefyd, yr oedd Richard yn frawd iau i John Thomas, dirprwy-bennaeth ysgol ramadeg Biwmares. Bu'r brawd hynaf farw yn 1769 gan adael ei lawysgrifau, meddir, i'w frawd iau. Nid rhyfedd, felly, cael Richard Thomas yn dangos yn ei lythyrau o Goleg Iesu fod iddo ddiddordeb mewn casglu a chopïo llawysgrifau. Cyfarfu Richard Thomas ag Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') ym Mheniarth ym mis Ebrill 1775 ar adeg, y mae'n werth sylwi, pan oedd Cymdeithas y Cymmrodorion, ag Owen Jones ('Owain Myvyr') yn ysgrifennydd iddi, yn ceisio trefnu i gyhoeddi cynnwys rhai llawysgrifau a oedd mewn llyfrgelloedd preifat er mwyn i ysgolheigion gael gwneuthur ymchwiliadau i hanes a llenyddiaeth Cymru; dywed Hugh Maurice, nai Owen Jones, i olygyddion y The Myvyrian Archaiology of Wales ddefnyddio rhai o lawysgrifau John a Richard Thomas. Diddorol, felly, yw gweld peth fel hyn mewn llythyr a anfonodd Richard Thomas at ' Owain Myvyr ' ar 17 Mai 1778 o Peniarth - ' Er pan ydwyf yn y Wlad yr ydwyf wedi cael Ffafor fawr yng Ngolwg Mr. Vychan o'r Hengwrt - gwedi cael edrych ei Lyfrau trosodd Amryw Weithiau, ac mae efe (trwy fy Nymuniad i) gwedi gaddo gyrru am Rwyniwr Llyfrau iw Dŷ yr Hâf hwn, i rwymo y sawl rhai ynt yn o gandryll, ac i ddiwigio'r Cwbl - a minnau i fôd yno i wneud Côfrestr o naddynt. … Fe welais Ieuan Fardd ('Ieuan Brydydd Hir') ym Mheniarth yn ddiweddar … ' (gweler 'Introduction' i N.L.W. Handlist of MSS., i, lle y dyfynnir hefyd frawddeg o lythyr a anfonodd Richard Thomas at 'Ieuan Fardd' ynglŷn â llyfrgell Hengwrt). Cadwyd cryn nifer o lythyrau Richard Thomas ynghyd â rhai o'i lawysgrifau; e.e. Peniarth MS 201 , ac NLW MS 42B , NLW MS 53B .

Dywed Robert Williams (Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen ) ac Isaac Foulkes (Enw.), i E. Protheroe, A.S., werthu rhai o lawysgrifau achau Richard Thomas i'r College of Heralds, Llundain, a chyfeiriant at ddwy lawysgrif achau a oedd yn aros heb eu gwerthu, y naill yn Rhûg, gerllaw Corwen, a'r llall yn Peniarth. Ychwanega Foulkes fod ar gael ' Gywydd o Annerch ' i Richard Thomas pan ymwelodd â Rhiwaedog, gerllaw'r Bala, gan Rowland Huw o'r Graienyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.