Ganwyd yn Tyddyn Tudur, Llanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych, yn 1775 (bedyddiwyd 5 Mehefin), yn fab Peter Maurice a'i wraig Jane, chwaer Owen Jones ('Owain Myfyr'). Aeth yn ieuanc i Lundain at ei ewythr gan weithio yn Upper Thames Street, a chymryd rhan yn ei weithgareddau llenyddol a chymdeithasol, copïo llawysgrifau Cymraeg, a'i le yng Nghymdeithas y Gwyneddigion. Mabwysiadodd grefft crwynwr, ac ymsefydlodd yn Tooley Street. Priododd yn eglwys S. Olave, Tooley Street, Elizabeth Mary Louisa, merch Rowland Jones, Greenwich, genedigol o Lan-ym-Mawddwy (cynlywydd y Gwyneddigion), heb yn wybod i'w thad, ar ddydd cinio blynyddol y gymdeithas yn 1800. Y flwyddyn honno, ef oedd is-lywydd y gymdeithas, ac yr oedd y llywydd, Thomas Roberts, Llwynrhudol, a'r cofiadur, John Jones ('Jac Glan y Gors') yn gyfrannog o'r gyfrinach ac yn y briodas. Bu'n byw yn Greenwich, ac yn ddiweddarach ym Mhengwern, Ffestiniog, yn Nhremadog, ac yn y Plas Gwyn, Llanrug, lle y bu farw 18 Mawrth 1825; yn Llanfihangel Glyn Myfyr y claddwyd ef. Yr oedd yn ysgrifennwr destlus ac yn medru peintio â dyfrlliw. Y mae un o'i gopiau cynnar, barddoniaeth Gwalchmai (llawysgrif NLW MS 5941A , a ysgrifennwyd yn 1796), mewn ysgrifen 'farddol' gyda lluniau. Efe a ysgrifennodd lawysgrifau Llanstephan MS 161 , NLW MS 36B , NLW MS 47B , NLW MS 113B , NLW MS 119B , NLW MS 122C , a NLW MS 185D . Erys nifer o'i lawysgrifau yng nghasgliad y Cymmrodorion yn yr Amgueddfa Brydeinig (Add. MSS. 14962-15089), ac yn 1849 cyflwynodd ei ferch, Jane Maurice, 49 o gyfrolau o ysgrifeniadau ganddo ef ac Owen Jones i'r Amgueddfa (llawysgrifau Caerhun, Add. MSS. 31062-31110). Cydnabuwyd ei gyfraniad i'r The Myvyrian Archaiology of Wales yn y rhagair, 1801. Efe oedd awdur y gerdd orau ar destun a osodwyd gan y Gwyneddigion yn 1804-5, ond gan iddo esgeuluso dadlennu ei enw o fewn yr amser penodedig, cyflwynwyd y fedal i David Owen ('Dewi Wyn o Eifion'), awdur y gerdd ail-orau.
Ysgrifennodd ei fab hynaf, ROWLAND JONES MAURICE, gyfieithiad o Nennius yn llawysgrif NLW MS 119B , 4 Gorffennaf 1817.
Addysgwyd ei ail fab PETER MAURICE (ganwyd Plas Gwyn 29 Mehefin 1803 a'i fedyddio yn Greenwich 1 Gorffennaf 1804) yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelododd 1822, a graddiodd yn B.A. 1826, M.A. 1829, B.D. 1837, a D.D. 1840), ac ordeiniwyd ef yn ddiacon (gyda theitl i guradiaeth Llanbedr a Chaerhun) 27 Ionawr, ac yn offeiriad 13 Hydref 1827. Bu'n gaplan New College, Rhydychen, 1828-58, a Choleg All Souls, 1837-58, ac yn ficer Yarnton, Rhydychen, o 1858 hyd ei farw 30 Mawrth 1878. Y mae'n adnabyddus ar gyfrif ei emynau, ei waith ar gerddoriaeth eglwysig, a'i bamffledi yn erbyn Pabyddiaeth. Cyfrannodd ei chwaer, JANE MAURICE (ganwyd ym Mhandy Tudur, 19 Hydref 1812), 20 emyn i'w Choral Hymn Book, 1861.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.