Ni wyddys i sicrwydd ymhle y ganwyd ef, ond bu yn Nhrefeca, a chymysgir ef yn fynych â'r Thomas Roberts sydd yn yr ysgrif a flaen hon. Aeth i Gaernarfon yn 1796, ac ymddengys iddo ddechrau argraffu yno yn 1797. Argraffodd, yn 1800, rifyn o Greal, neu Eurgrawn, yr unig ran a ymddangosodd o'r cylchgrawn hwnnw. Yn 1807 efe oedd argraffydd cylchgrawn arall - Trysorfa Gwybodaeth, neu Eurgrawn Cymraeg; ymddangosodd dau rifyn o hwn. Rhoddir teitlau gweithiau eraill a argraffodd Thomas Roberts gan Ifano Jones yn Hist. of Printing and Printers in Wales. Ar ôl ei farw bu ei weddw, M. Roberts, yn argraffu hyd ei marw hithau ar 20 Gorffennaf 1814; hyhi a argraffodd, 1812, Arwyrain Amaethyddiaeth, gwaith David Owen ('Dewi Wyn o Eifion'). Bu farw 30 Ebrill 1811 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanbeblig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mab hynaf y Thomas Roberts (1735 - 1804) yn yr ysgrif sydd o flaen yr un yn y Bywgraffiadur Fe'i ganwyd (yn annhymig) ar 13 Mawrth 1760, yn 'y parlwr bach' yn Nhrefeca, pan oedd ei fam ar ymweliad â'i thad yng nghyfraith William Roberts (o'r Plas Bach) yn ei afiechyd olaf. Fel y soniwyd yn yr ysgrif arno, symudodd ei dad a'r teulu wedyn i Dalgarth. Cyfeirir fwy nag unwaith at y mab yn nyddlyfrau ei dad. Anfonwyd ef i ysgol yn Nhalgarth yn 1775. Tua 1782, anfonwyd ef i Lundain, i fod dan lygaid y Morafiad enwog Benjamin La Trobe, ac i ddysgu argraffu. Wedi marw La Trobe yn 1786, daeth i lawr i Drefeca (Mehefin 1787) i arolygu argraffu'r 'Beibl bach'. Erbyn 1797 beth bynnag, yr oedd yng Nghaernarfon, yn argraffu. Efô, yn 1800, a argraffodd yr unig rifyn o'r Greal, neu Eurgrawn (gweler yr ysgrif ar David Thomas, ' Dafydd Ddu Eryri') ac yn 1807, y ddau rifyn o Trysorfa Gwybodaeth, neu Eurgrawn Cymraeg (gweler yr un ysgrif eto); am lyfrau eraill a argraffodd gweler J. Ifano Jones, Printing and Printers in Wales. Ymbriododd yng Nghaernarfon, â Mary (Williams), gweddw dda ei byd. Bu farw 30 Ebrill 1811, a chladdwyd yn Llanbeblig; daliodd ei weddw at y fusnes, ond bu hithau farw ar 20 Gorffennaf 1814.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.