Ganwyd yn y Plas Bach, Llansantffraid Glan Conwy, 31 Mawrth 1735, yn drydydd mab i WILLIAM ROBERTS, rhydd-ddeiliad a argyhoeddwyd yn 1748 gan Peter Williams ac a lynodd wrth Howel Harris yn ymraniad 1750 - gymaint felly nes galw ei fab Thomas adref o wasanaeth yn nhref 'Rowlandaidd' y Bala. Yn 1759, gadawodd William Roberts ei diroedd yng Nglanconwy i'w feibion hynaf, ac aeth ef a'i wraig a'i blant iau i ffarmio yn y Geuffordd, gerllaw Talgarth; bu farw yno yn 1760. Yna daeth Thomas Roberts i lawr at ei fam weddw; symudodd yn 1762 i Chancefield ar gwr Talgarth, lle y bu hi farw yn 1763. Yn 1773 rhoes Thomas Roberts y tir i fyny ac aeth i fyw yn un o'r Teulu; gan ei fod yn ddyn o addysg dda, enillodd gryn ddylanwad yn Nhrefeca, ac yn nes ymlaen codwyd ef yn ymddiriedolwr. Ac y mae ei ddyddlyfrau (yn Ll.G.C.), sy'n ymestyn hyd at 1789, yn fawr eu diddordeb. Bu farw yn 1804 - claddwyd ' Thomas Roberts, gent. ' yn Nhalgarth, 23 Ionawr. Bu'n briod ddwywaith; y mae ymdriniaeth arno ef a'i deulu gan Richard Bennett yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, x, 21-8. Cymysgwyd ef gan rai (e.e. yn y nodyn ar waelod t. 704 yn Llyfryddiaeth y Cymry) â Thomas Roberts (1760 - 1811) yr argraffydd
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.