RHŶS, ELIZABETH (Elspeth) (1841 - 1911), athrawes, gwesteiwraig ac ymgyrchydd dros hawliau merched

Enw: Elizabeth Rhŷs
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1911
Priod: John Rees
Plentyn: Gwladus Rhŷs
Plentyn: Myvanwy Rhŷs
Plentyn: Olwen Rhŷs
Rhiant: John Davies
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: athrawes, gwesteiwraig ac ymgyrchydd dros hawliau merched
Maes gweithgaredd: Addysg; Diwydiant a Busnes; Ymgyrchu
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Elspeth Hughes-Davies ar 26 Mai 1841 yn ffermdy Tyn yr Aelgerth ger Llanberis, sir Gaernarfon, yn ferch i John Davies (Sion Dafydd yr Ali, c.1813-1881); nid yw enw ei mam yn hysbys. Ystyrid bod ei thad yn 'meddu grasp meddwl anghyffredin', er mai '[d]yn syml, heb ddim manteision ysgolion ydoedd'. Wedi gweithio fel disgybl-athrawes yng ngogledd Cymru, aeth Elspeth ymlaen i Goleg Hyfforddi Athrawon Borough Road ar gyfer Menywod yn Llundain, cyn ei phenodi'n bennaeth Ysgol Brydeinig y Merched yn Amlwch. Yno, yn 1861, daeth i gysylltiad â John Rhŷs, prifathro ifanc ysgol Rhos-y-bol. Yn ddiweddarach, symudodd Elspeth i wasanaethu fel pennaeth Ysgol Brydeinig Brychdyn, sir y Fflint; yna, ar anogaeth Rhŷs, gadawodd Gymru i ymgymryd â swydd athrawes Saesneg yn Boulogne, Ffrainc, a theithio ymhellach ar y Cyfandir. Treuliodd amser ym Mharis, y Swistir, yr Almaen a Rhufain, lle bu'n astudio celf yn stiwdio'r arlunydd naratif Achille Buzzi, gan ddod yn beintiwr portreadau medrus.

Myfyrwraig mewn ieithoedd ym Mhrifysgol y Sorbonne, Paris, ydoedd pan gychwynnodd rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia (Y Rhyfel Ffranco-Brwsiaidd; 16 Gorffennaf 1870-28 Ionawr 1871). Symudodd er ei diogelwch i Vienna, gan anfon llythyr oddi yno, dyddiedig 27 Medi 1870 , at wythnosolyn rhyddfrydol Methodistiaid Calfinaidd Cymru, Y Goleuad . Hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o lythyrau at y papur o'r Cyfandir, â dau lythyr dilynol, ar 4 Ionawr a 25 Mawrth 1871 , wedi eu hysgrifennu o Berlin. Ynddynt, mynegodd Elspeth ei drwgdybiaeth o safbwyntiau'r wasg Brydeinig ynghylch y rhyfel; disgrifiodd Brwsia Otto von Bismark (1815-1898) fel 'Sparta yr oes hon'; a chynigiodd 'rydd-gyfieithiad' o erthygl o'r Neue freie Presse yn condemnio carchariad y gwleidydd Iddewig adain chwith, Johann Jacoby (1805-1877), fel 'gweithred o draha noeth'. Dangosodd yr ohebiaeth finiogrwydd ei barn ynghylch pwerau mawr Ewrop, y gwrthdaro rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth, ac effeithiau niweidiol rhyfel.

Dengys ymateb John Davies, golygydd Y Goleuad, i lythyr cyntaf Elspeth, falchder o weld merch ifanc 'a anwyd ac a fagwyd wrth droed y Wyddfa' yn ysgrifennu o dramor mewn Cymraeg di-fefl. Gallasai hefyd fod wedi sylwi ar ei thalent ddigamsyniol fel ieithydd. Yr oedd ei chyfieithiadau o lythyrau Almaeneg yn ei gohebiaeth â'r papur yn brawf ei bod wedi llwyr feistroli'r iaith honno. Meithrinwyd ei galluoedd ieithyddol ymhellach drwy ei pherthynas â Rhŷs, a'i hanrhegodd yn gynnar yn eu perthynas â geiriadur Ffrangeg-Almaeneg; a anfonai wersi Lladin ati drwy'r post yn ystod ei chyfnod ym Merlin; ac a ddaeth i ymweld â hi yno yn ystod gaeaf 1871. Ddechrau haf 1872, dychwelodd Elspeth i Gymru ac, ar 6 Awst y flwyddyn honno, priodwyd hi a Rhŷs yn Eglwys Plwyf Llanberis. Ymgartrefodd y ddau yn y Rhyl, lle yr oedd Rhŷs yn Arolygydd Ei Mawrhydi ar gyfer ysgolion sir y Fflint a sir Ddinbych. Ganwyd eu plentyn cyntaf, Gwladus, ym mis Mai 1873, ond bu farw yn Llanberis ar 10 Mehefin 1874, cyn genedigaeth yr ail blentyn, Myvanwy, ar 1 Awst 1874, a thrydedd ferch, Olwen, ar 4 Mawrth 1876.

Pan benodwyd Rhŷs yn Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877, symudodd y teulu i Gwynfa, 35 Ffordd Banbury, Rhydychen, gan rannu eu hamser rhwng y cartref hwnnw a phreswylfa swyddogol 'The Lodgings' o 1895 ymlaen, pan benodwyd Rhŷs yn bennaeth Coleg yr Iesu. Roedd treulio hafau yn Llanberis gyda rhieni Elspeth yn arferiad er babandod y merched, a pharhaodd y drefn o ymweld â Chymru yn flynyddol yn yr haf wedi i'r teulu symud i Rydychen, gydag wythnos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhan o'r patrwm. Mewn cyfarfod o dan adain Cymdeithas y Cymmrodorion yn eisteddfod Dinbych ym mis Awst 1882, gwnaeth Elspeth anerchiad medrus ('clever') o blaid addysg i ferched, yn dadlau bod cyfyngu arni yn niweidiol i ddynion yn ogystal ag i fenywod, ac yn eu gyrru i hualau sinigaidd byd y clwb gan niweidio bywyd teuluol. Yr un flwyddyn, cadeiriodd y drafodaeth gyntaf yng Nghymru ar addysg i fenywod. Adlewyrchwyd ei hymdeimlad hi a'i gŵr o bwysigrwydd addysg yn y gofal a roddwyd i ddatblygiad eu dwy ferch. Ymhyfrydai'r fam yn eu gallu mewn rhifyddeg yn blant ifanc, a hyrwyddwyd eu meistrolaeth o ieithoedd a diwylliant tramor drwy gyflogi tiwtor Ffrangeg i fyw gyda'r teulu ac ar ymweliad megis yr un yng ngwanwyn 1881, pan aeth Myvanwy, yn chwe mlwydd oed, i ysgol gwfaint St Cloud i ddyfnhau ei gwybodaeth o'r Ffrangeg. Ad-dalwyd y gofal hwn yn ddiweddarach gan lwyddiannau nodedig y ddwy fel myfyrwyr yn Ysgol Uwch Rhydychen i Ferched; Myvanwy yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Newnham, Prifysgol Caergrawnt (gyda'i gradd yn y Clasuron yn cael ei dyfarnu gan Goleg y Drindod, Dulyn, yn 1905); ac Olwen ym Mhrifysgol Rhydychen, lle yr enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Ieithoedd Modern yn 1901 diolch i'r Sefydliad dros Addysg Uwch Menywod (gradd nas cydnabuwyd gan y Brifysgol tan 1920).

Yr oedd yr anghyfiawnderau a ddaeth i ran ei merched ym mhrifysgolion mawr Prydain yn dod yn sgil blynyddoedd o ymrwymiad gan Elspeth a gweddill y teulu i achosion Rhyddfrydol ac i'r achos dros y bleidlais i fenywod. Yn 1888, gwahoddwyd Elspeth i ymuno â Phwyllgor Cyffredinol y Gymdeithas Genedlaethol Dros y Bleidlais i Fenywod gan ei sylfaenydd, y gwyddonydd amatur Lydia Becker (1827-1890). Yn yr un flwyddyn, cynigiodd Elspeth sefydlu cangen o Gymdeithas Ryddfrydol y Menywod yn Rhydychen; daeth yn is-lywydd ar y gangen hon, ac yn llywydd cangen swydd Rhydychen Ganol yn 1892. Dyfnhawyd ei hymwneud â Rhyddfrydiaeth drwy ei rôl fel gwesteiwraig yn 'nhŷ agored' y teulu: yn ogystal â myfyrwyr a dysgedigion o Gymru, Prydain, a thu hwnt, croesawodd David Lloyd George, ei wraig Margaret, a'u plant, i letya a chiniawa yn eu cartref, a daeth y ddau deulu yn gyfeillion agos. Dengys gohebiaeth Elspeth ei bod yn ymwneud â nifer o wleidyddion Rhyddfrydol eraill yn senedd Prydain ynghyd ag unigolion blaenllaw dros yr achos cenedlaetholaidd yng Nghymru ac yn Iwerddon. At hyn, y mae'n cadarnhau agosrwydd ei pherthynas ag ysgolheigion mewn sawl maes, cyfran nodedig ohonynt yn Ffrancwyr. Yn eu plith, roedd y casglwr llên gwerin Henri Gaidoz (1842-1932) a'r ieithegwr Paul Meyer (1840-1917); yr Asyriolegwr Archibald Henry Sayce (1845-1933); y diwinydd Edwin Hatch (1835-1889); a menywod blaengar megis y meddyg Frances Hoggan (1843-1927); yr awdures o Batagonia Eluned Morgan (1870-1938); ac Eleanor Mildred Sidgwick (1845-1936), pennaeth Coleg Newnham, Caergrawnt, o 1892.

Drwy gydol ei bywyd prysur fel gwraig i un a fu'n ddylanwadol yn Rhydychen fel athro ac yna fel pennaeth coleg, dioddefodd Elspeth anwylderau niferus. Yr oedd ei marwolaeth, ar 29 Ebrill 1911 yn bur annisgwyl, serch hynny. Cofiwyd amdani gydag edmygedd ymhlith y rhai a'i hadwaenai yn Rhydychen yn ogystal â chymdogion bore oes yn Llanberis, ag Alice Gray Jones, golygydd Y Gymraes , yn nodi'n atgofus mai 'Miss Hughes Davies oedd ideal pob geneth yn y lle, a bod fel hi oedd ein huchelgais'. Fe'i claddwyd ym mynwent St. Cross, Holywell, Rhydychen, a rhoddwyd ei gŵr i orffwys yn yr un bedd yn dilyn ei farwolaeth yntau yn Rhagfyr 1915. Gosodwyd cofeb terracotta drawiadol ar y bedd yn dangos dau ben a'u llygaid ynghau yn wynebu ei gilydd a phlac islaw yn rhestru anrhydeddau John Rhŷs ac yn nodi enw a dyddiadau buchedd ei wraig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-12-15

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.