Erthygl a archifwyd

HOGGAN [née Morgan], FRANCES ELIZABETH (1843-1927), meddyg a diwygwraig gymdeithasol

Enw: Frances Elizabeth Hoggan
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1927
Priod: George Hoggan
Rhiant: Georgiana Catherina Morgan (née Philipps)
Rhiant: Richard Morgan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: meddyg a diwygwraig gymdeithasol
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Beth R. Jenkins

Frances Hoggan oedd y Gymraes gyntaf i ymgymhwyso'n feddyg, a bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i wella addysg i ferched yng Nghymru. Fe'i ganed ar 20 Rhagfyr 1843 yn Aberhonddu, yr hynaf o bump o blant Georgiana Catherina (ganwyd Philipps) a Richard Morgan, curad Priordy St Ioan, Aberhonddu. Fe'i magwyd yn Aberafan, ac ar ôl marwolaeth ei thad yn 1851 symudodd y teulu i'r Bontfaen lle dechreuodd Frances ar ei haddysg. Mynychodd ysgolion wedyn yn Windsor (1853), Paris (1858) a Düsseldorf (1861).

Wedi dychwelyd i Brydain yn 1866, cychwynnodd Frances Morgan ar ei gyrfa feddygol. Gyda'r bwriad o ennill trwydded Neuadd yr Apothecaries cymerodd wersi meddygol preifat yn Llundain gan Dr Elizabeth Garrett (yn ddiweddarach Garrett Anderson), a enillasai le ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 1863, y wraig gyntaf a hyfforddwyd ym Mhrydain i wneud hynny. Ond yn fuan ar ôl i Morgan lwyddo yn yr arholiadau rhagbrofol yn 1867, penderfynodd cyngor Cymdeithas yr Apothecaries eithrio o'r drwydded rai a gawsai addysg feddygol breifat.

Gan na allai gwblhau ei hyfforddiant meddygol ym Mhrydain, cychwynnodd Frances Morgan ar gwrs meddygol ym Mhrifysgol Zürich yn hydref 1867. Buan yr enillodd barch y staff a'i chyd-fyfyrwyr am ei chymeriad penderfynol a hunanfeddiannol. Pan gododd athro anatomeg wrthwynebiad i gynnwys merch yn ei ddosbarth, dywedir i Morgan ei ateb, 'Herr Professor, mae'n llawer mwy cywilyddus ac amhriodol gwneud eithriadau yma. Rydym yn dymuno astudio'r pwnc heb atalfa o unrhyw fath' (Forel, t. 56). Amddiffynnodd Frances Morgan ei thesis ar 14 Mawrth 1870 o flaen cynulleidfa o dros 400, a hi oedd yr ail ferch i raddio mewn meddygaeth o Brifysgol Zürich a'r ferch gyntaf o Brydain i ennill gradd MD Ewropeaidd. Roedd casgliadau ei thraethawd ar atrophi cyhyrol cynyddol yn wahanol i gasgliadau cyhoeddedig ei chyfarwyddwr, Anton Biermer: dadleuodd Morgan mai clefyd organig y system nerfol ganolog ydoedd ac nid clefyd cyhyrol, fel yr honnodd Biermer. Ar ôl iddi raddio, derbyniodd Morgan hyfforddiant clinigol yn Vienna, Prague a Pharis.

Erbyn diwedd 1870 roedd Morgan wedi ymsefydlu mewn practis preifat yn 13 Granville Place, Llundain. Ym Mawrth 1871 fe'i penodwyd hefyd gan Elizabeth Garrett Anderson fel y ffisegydd cynorthwyol cyntaf i Fferyllfa Merched a Phlant y Santes Fair, ac yna y flwyddyn ganlynol i'w holynydd, yr Ysbyty Newydd i Ferched - swydd a ddaliodd hyd 1878.

Priododd Frances Morgan ei chyd-feddyg George Hoggan (1837-1891) ar 1 Ebrill 1874, ac am y degawd dilynol cynaliasant bractis ar y cyd yn Llundain. Fe'i hadwaenid o hynny ymlaen fel Frances Hoggan, a chyhoeddodd yn helaeth gyda'i gŵr ar ystod eang o bynciau gan gynnwys anatomeg a ffisioleg chwarennau lymff.

Er iddi ymarfer fel meddyg am saith mlynedd, ni chynhwyswyd enw Frances Hoggan ar y Gofrestr Feddygol tan 1877. Derbyniodd ei thrwydded gan Goleg Meddygon y Brenin a'r Frenhines yn Iwerddon, y corff arholi cyntaf i agor ei arholiadau trwyddedig i ferched. Yn 1875 etholwyd Hoggan yn aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain, yn fuan ar ôl i Elizabeth Garrett Anderson ddod yn aelod benywaidd cyntaf yn 1873. Serch hynny, cyflwynwyd cymal gwaharddol yn 1878 a ataliodd dderbyn rhagor o ferched; er bod aelodaeth Garrett Anderson yn dal yn ddilys, gwyrdrowyd aelodaeth Hoggan ar sail pwynt cyfreithiol technegol.

Er ei bod yn gadarn iawn ei chefnogaeth i wellhad yn sefyllfa gyfreithiol, addysgol ac economaidd merched, roedd ei barn ar sut i gyrraedd y nodau hynny yn aml yn wahanol i eiddo ei chyfoeswyr. Er enghraifft, astudiodd George Hoggan feddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin ar yr un pryd ag ymgyrch gan grŵp o ferched dan arweiniad Sophia Jex-Blake i gael eu derbyn i hyfforddiant clinigol. Galwodd ef ei hun yn 'un o gefnogwyr mwyaf ymroddedig achos merched meddygol yr adeg honno' (Hoggan, 'Women in Medicine', t.72). Ond yn ddiweddarach roedd Frances a George Hoggan yn feirniadol o dactegau ymosodol Jex-Blake i gael addysg feddygol, gan gyfeirio yn hytrach at y cynnydd digyffro ond gwirioneddol a wnaed gan rai fel Frances Hoggan. Rhwng 1881 a 1885 bu Hoggan hefyd yn rhan o'r ymgyrch dros ferched meddygol yn India gan ddadlau dros flaenoriaethu agor ysgolion meddygol i ferched Indiaidd. Achosodd hyn wrthdaro â rhai o'i chyfoedion a oedd yn codi arian i recriwtio ac anfon meddygon benywaidd o Brydain i India.

Arhosodd Frances Hoggan yn llygad y cyhoedd trwy ei rhan mewn ystod eang o ymgyrchoedd diwyg gwleidyddol a chymdeithasol. Yn 1871 sefydlodd hi'r Gymdeithas Iechyd Genedlaethol gydag Elizabeth Blackwell i hyrwyddo addysg glanweithdra. O ganol y 1870au, bu'r Hoggans yn ymgyrchwyr blaenllaw yn erbyn bywddyraniad, ac yn 1875 roeddent yn aelodau cychwynnol Cobbe's Victoria Street Society for the Protection of Animals Liable to Vivisection. Serch hynny ymddiswyddodd y ddau yn 1878 pan fabwysiadodd y gymdeithas bolisi o fynnu gwaharddiad llwyr ar unrhyw arbrofion ar anifeiliaid, yn hytrach nag arbrofion poenus yn unig. Roedd Frances Hoggan yn gefnogol i'r bleidlais i ferched, ysgrifennodd ar fanteision nofio i iechyd merched, a theithiodd i Berlin ar ran y Gymdeithas er Hyrwyddo Cyflogaeth i Ferched.

Er iddi fyw yn Lloegr am y rhan fwyaf o'i hoes ac ni fu ganddi fawr o gyswllt arall â bywyd ei gwlad enedigol, bu Hoggan yn ganolog yn yr ymgyrch i wella addysg merched yng Nghymru. Yn 1880 roedd yn un o bedair menyw a wahoddwyd i roi tystiolaeth i Bwyllgor Aberdâr, a sefydlwyd i archwilio cyflwr addysg ganolradd ac uwch yng Nghymru. Cyhoeddodd ei hargymhellion yn Education for Girls in Wales yn 1882, a hefyd mewn cyfres o lythyron a ymddangosodd yn y Western Mail a'r South Wales Daily News. Yn y rhain pleidiodd achos cydaddysg, yn ogystal â mynediad cyfartal i ysgoloriaethau ar gyfer merched yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Er iddi gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y dosbarth, gwelai hyn yn fodd i wella dealltwriaeth y disgyblion o'r Saesneg, yn hytrach nag i hyrwyddo'r iaith er ei mwyn ei hun. Roedd cyfraniad Hoggan i'r ymgyrch yn gyson â'i chred bod gwell addysg yn fodd i ferched dosbarth canol gael annibyniaeth economaidd, ac felly i godi safonau diwylliant y genedl. Enillodd ei rhan amlwg yn yr ymgyrch hon edmygedd gan John Gibson, cefnogwr blaenllaw hawliau merched a golygydd a pherchennog y Cambrian News. Mae haneswyr diweddarach Cymru hefyd wedi ei gweld yn 'un o brif arloeswyr ffeministaidd Cymru Oes Fictoria' (Evans, t. 100). Ar ôl llythyr o gefnogaeth i'r Gymdeithas er Hyrwyddo Addysg i Ferched yng Nghymru yn 1886, nid ymddengys i Hoggan chwarae unrhyw ran bellach ym maes addysg yng Nghymru.

Yn 1885 symudodd yr Hoggans i Ffrainc, oherwydd iechyd gwael George Hoggan. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ar 17 Mai 1891, canolbwyntiodd Frances Hoggan ei hegni ar faterion cymdeithasol tramor. Ymwelodd â'r ymgyrchydd hawliau sifil Americanaidd W. E. B. Du Bois ym Mhrifysgol Atlanta yn 1907 ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, yn 65 oed, hwyliodd i Dde Affrica. Yn 1911 siaradodd yn y Gyngres Hil Gyffredinol yn Llundain.

Treuliodd Frances Hoggan ei blynyddoedd olaf yn Brighton, lle bu farw mewn cartref nyrsio ar 5 Chwefror 1927. Claddwyd ei llwch gyda gweddillion ei gŵr ym mynwent Woking ar 9 Chwefror.

Yn 2016 sefydlodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Fedal Frances Hoggan i'w dyfarnu'n flynyddol er mwyn cydnabod cyfraniad blaenllaw gan fenywod cysylltiedig â Chymru i ymchwil ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, technoleg, peirianneg, neu fathemateg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-11-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

HOGGAN, FRANCES ELIZABETH (1843 - 1927), meddyg

Enw: Frances Elizabeth Hoggan
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1927
Priod: George Hoggan
Rhiant: Georgiana Catherina Morgan (née Philipps)
Rhiant: Richard Morgan
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Aberhonddu 20 Rhagfyr 1843, yn ferch i Richard Morgan, mab Robert Morgan o Henry's Mote yn Sir Benfro, a gwr gradd o Goleg Iesu, Rhydychen (1830 - Foster, Alumni Oxonienses); yr oedd ef ar y pryd yn gurad y Priordy yn Aberhonddu. Un o Philipiaid Cwmgwili oedd ei mam. Penodwyd Richard Morgan yn ficer Aberafan yn 1845, ond bu farw yn 1851.

Addysgwyd Elizabeth ar y Cyfandir, a phenderfynodd fynd yn feddyg; ond cafodd fod ysgolion meddygol Llundain wedi eu cau i ferched, ac felly aeth i Zurich. Graddiodd yn M.D. yno yn 1870 - hi oedd y ferch gyntaf o Brydain a raddiodd mewn meddygiaeth ar y Cyfandir, a'r ail ferch o gwbl i raddio yn Zurich. Dychwelodd i Lundain i weithio, gan roi sylw arbennig i afiechydon merched a phlant; a chyhoeddoedd res hir o bapurau meddygol, yma ac ar y Cyfandir. Yn 1874, ymbriododd â George Hoggan, meddyg. Bu Elizabeth farw ar 5 February 1927.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.