Ganwyd Rhagfyr 1852 yn Llanllyfni, yn ferch i David ac Ellen Jones. Yr oedd ei thad yn frawd i'r Parch John Jones, Brynrodyn, a'i mam yn gyfnither i'r Parch. John Roberts ' Iolo Caernarfon '. Addysgwyd yn ysgol Dolbadarn, Llanberis a Choleg Hyfforddi Abertawe, a bu'n brif athrawes ei hen ysgol cyn iddi briodi (1881) y Parch. William Jones, gweinidog Fourcrosses. Bu iddynt 4 o blant. Bu'n olygydd Y Gymraes o 1896 hyd 1919. Ysgrifennodd hefyd nifer o lyfrau i blant, yn eu plith Caniadau Ceridwen Peris. Bu ganddi ran helaeth yng nghychwyn Cartre Treborth. Yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr Undeb Dirwest merched gogledd Cymru ac yn aelod gweithgar ar lawer o bwyllgorau. Symudodd i fyw i Gricieth yn 1919. Bu farw yng nghartref ei merch ym Mangor, 17 Ebrill 1943.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.