Mab hynaf Thomas Jones (1819 - 1882); ganwyd yn Llundain. Aeth i ysgol University College, Llundain, ac wedyn i'r coleg hwnnw. Galwyd ef i'r Bar yn 1876, o'r Middle Temple (bu wedyn yn ' Bencher ' yno yn 1899 ac yn ' Reader ' yn 1911). Dadleuodd am amryw flynyddoedd yng nghylchdaith Deheudir Cymru, ond blinodd ar hynny, ac yn 1885 penodwyd ef yn farnwr mewn llys sirol yn Lloegr. Ymddiswyddodd yn 1892; aeth yn Q.C., ac ymdaflodd i fywyd cyhoeddus. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros Stroud yn 1892, ond yn 1895 ymgeisiodd yn rhanbarth Abertawe, a daliodd ei sedd yno hyd 1914, pan benodwyd ef yn ' Master in Lunacy.' Bu'n ' Recorder ' Merthyr Tydfil (1910) a Chaerdydd (1914); urddwyd ef yn farchog yn 1906, a chodwyd ef i'r Cyngor Cyfrin yn 1912. Er nad oedd yn Gymreigiwr hollol rydd, ymddiddorai'n fawr ym mywyd Cymru ac yn ei hanes - yn bennaf, wrth gwrs, yn ei hanes cyfreithiol. Bu ganddo ran yng ngwneuthuriad siarter Prifysgol Cymru; yr oedd yn aelod pwysig iawn o'r comisiwn ar y tir yng Nghymru (1893), a rhoddwyd ef hefyd ar y comisiwn (1907) ar yr Eglwys yng Nghymru. Fe'i cofir yn bennaf fel un o ddau awdur (John Rhys oedd y llall) y llyfr defnyddiol The Welsh People, 1900, a seiliwyd ar y wybodaeth a ddeilliodd i'r awduron o'u gwaith ar y comisiwn tir. Ond cyhoeddwyd amryw bapurau eraill ganddo, megis ' Early Social Life in Wales ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1898-9), ' The Brehon Laws and their relation to the Ancient Welsh Institutes ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1904-5), a ' Foreign Elements in Welsh Mediaeval Law ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1916-7). Cafodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1919. Bu farw 6 Awst 1921 yn Ilfracombe.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.